Polisi Dyletswyddau Uwch ac Honoraria - Hydref 2024

Dod â'r dyletswyddau uwch/cyfrifoldebau ychwanegol dros dro i ben

Dylid cefnogi'r gweithiwr yn llwyr ac adolygu ei berfformiad yn llawn wrth gyflawni dyletswyddau ychwanegol. Gallai fod angen hyfforddiant a chymorth ychwanegol ar y gweithiwr yn ystod y cyfnod pan fydd yn ymgymryd â dyletswyddau uwch. Os bydd pryderon yn codi ynghylch perfformiad, dylid trafod y rhain cyn gwneud y penderfyniad i ddod â'r trefniant dyletswyddau uwch/cyfrifoldebau ychwanegol dros dro i ben.

Os yw swydd sydd wedi cael ei chyflawni drwy drefniadau dyletswyddau uwch yn cael ei hysbysebu a bod y gweithiwr sydd wedi bod yn cyflawni'r swydd yn llwyddiannus, bydd y cyfnod lle bu'r gweithiwr yn ymgymryd â'r dyletswyddau uwch yn cael ei ystyried wrth gytuno ar y pwynt yn y golofn gyflogau y bydd yn cael ei dalu.

Pan fydd y trefniadau yn dod i ben, dylid rhoi o leiaf un wythnos o rybudd a bydd angen i'r rheolwr lenwi ffurflen newid amgylchiadau arall i sicrhau bod y tâl am ddyletswyddau uwch/dyletswyddau ychwanegol yn dod i ben. Gall ymgartrefu o'r newydd yn eu rôl wreiddiol fod yn anodd i weithwyr, ac mae angen i reolwyr fod yn sensitif i bryderon posibl yn hyn o beth. Nid oes gan weithwyr a fu'n cyflawni dyletswyddau uwch hawl awtomatig i'r rôl ar drefniant mwy parhaol.

Fodd bynnag, rhaid i weithwyr a fu'n cyflawni dyletswyddau uwch/ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol ac nad ydynt yn cael eu penodi i swydd ar raddfa uwch wedi hynny yn dilyn cyfweliadau cystadleuol dderbyn adborth adeiladol ynghylch pam na fuont yn llwyddiannus.

Mae hyn yn wir ac eithrio trefniadau dyletswyddau uwch yn sgil gofynion iechyd a diogelwch a/neu isafswm staff, y gellir eu hadolygu'n ddyddiol gan y rheolwr gweithredol.