Polisi Dyletswyddau Uwch ac Honoraria - Hydref 2024

Eithriadau – dyletswyddau uwch mewn argyfwng

Bydd cyfnodau lle bydd angen i weithiwr ymgymryd â dyletswyddau uwch mewn argyfwng, e.e. yn ystod absenoldeb salwch. Bydd hyn gan amlaf yn berthnasol i wasanaethau rheng flaen lle bydd y gwasanaeth yn methu â gweithredu heb fod rhywun yn cyflenwi'r swydd, er enghraifft Llwythwr Cerbyd Sbwriel/Ailgylchu yn ymgymryd â dyletswyddau uwch sy'n rhan o swydd Gyrrwr Cerbyd Sbwriel/Ailgylchu sy'n absennol.

Bydd y rheol 28 diwrnod yn cael ei heithrio mewn achos o'r fath gan fod ymgymryd â'r dyletswyddau uwch yn debygol o fod am gyfnod byr ac ar sail ad hoc. Os ydych yn ansicr p'un a yw dyletswyddau uwch mewn argyfwng yn gymwys, holwch eich Ymgynghorydd Adnoddau Dynol.

Dylid parhau i gymryd gofal i sicrhau bod cyfle i ymgymryd â dyletswyddau uwch yn cael ei weithredu'n deg pan fod mwy nag un gweithiwr sydd â sgiliau priodol yn gallu ymgymryd â'r rôl.

Bydd dyletswyddau uwch mewn argyfwng yn weithredol pan fod gweithiwr yn cyflawni swyddogaeth lawn y swydd sydd ar raddfa uwch yn unig. Dylid talu swm llawn y gwahaniaeth rhwng y cyflog presennol ac isafswm cyflog y swydd ar raddfa uwch. Os yw isafswm cyflog y swydd ar raddfa uwch yn is neu'r un fath â chyflog presennol y gweithiwr, dylai dderbyn y tâl honorariwm ar bwynt nesaf y golofn dâl sydd uwchben ei gyflog presennol.

Pan fydd gweithiwr yn cyflenwi mewn argyfwng, bydd y tâl yn cael ei wneud o ddiwrnod cyntaf y cyfnod lle'r ymgymerir â'r dyletswyddau uwch. Dylai'r rheolwr gyflwyno manylion ynghylch y dyletswyddau uwch i'r Gyflogres.