Polisi Recriwtio Cyn-Droseddwyr - Ebrill 2024

Cyflwyniad

Mae Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn sicrhau na wahaniaethir yn erbyn cyn-droseddwyr nad ydynt wedi aildroseddu am gyfnod ers eu heuogfarnu wrth wneud cais am swyddi. Oni bai bod swydd wedi'i heithrio o'r Ddeddf, ni chaniateir i gyflogwyr wahaniaethu ar sail euogfarnau sydd wedi’u disbyddu.

Mae Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn galluogi rhai euogfarnau troseddol i gael eu 'disbyddu', neu gael eu hanwybyddu, ar ôl 'cyfnod adsefydlu'.

Mae cyfnod adsefydlu yn gyfnod penodol o amser o ddyddiad yr euogfarn. Ar ôl y cyfnod hwn, gyda rhai eithriadau, nid yw cyn-droseddwr fel arfer yn gorfod sôn am ei euogfarn wrth wneud cais am swydd.

Bydd yr holl weithwyr, gweithwyr achlysurol, gwirfoddolwyr, contractwyr a gweithwyr asiantaeth yn cael rhyw fath o wiriadau fetio cyn cyflogi. Bydd math a lefel y gwiriadau'n amrywio yn dibynnu ar y rôl a’r mynediad at blant neu oedolion mewn perygl.

Mae llawer o swyddi yn y Cyngor yn gymwys ar gyfer gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) sy’n darparu mynediad at wybodaeth cofnodion troseddol sensitif am ymgeiswyr.

Ni fydd cofnod troseddol o reidrwydd yn gwahardd unigolyn rhag gweithio gyda'r Cyngor. Bydd hyn yn dibynnu ar natur y swydd ac amgylchiadau a chefndir y troseddau.

Dim ond ar ôl i asesiad risg trylwyr ddangos bod datgeliad yn gymesur ac yn berthnasol i'r swydd dan sylw y gofynnir am un. Ar gyfer y swyddi hynny lle mae angen Datgeliad, rhaid i hysbysebion swyddi, proffiliau swyddi ac unrhyw wybodaeth recriwtio arall a ddarperir am y swydd gynnwys datganiad y gofynnir am Ddatgeliad os bydd yr unigolyn yn cael cynnig y swydd.

Bydd yr Awdurdod yn gofyn i ymgeiswyr ddatgelu euogfarnau troseddol ‘heb eu disbyddu’ fel rhan o’u ffurflen gais dim ond os yw’r swydd yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed, neu os yw wedi’i lleoli mewn ysgol, uned cyfeirio disgyblion, cartref plant neu gartref gofal, neu ar gyfer rhai rolau proffesiynol ariannol a chyfreithiol, neu rolau swyddog gorfodi sifil.