Polisi Recriwtio Cyn-Droseddwyr - Ebrill 2024
Datganiad Polisi
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Caerfyrddin a sicrhau bod trefniadau a gweithdrefnau cadarn yn eu lle. Mae hyn yn cynnwys rhoi gweithdrefnau ac arferion recriwtio diogel ar waith.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i drin ei staff, ei ddarpar staff, ei ddarpar wirfoddolwyr a'i wirfoddolwyr presennol yn deg, heb ystyried cefndir, diwylliant, hil, lliw, cenedl, tarddiad ethnig neu genedlaethol, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oedran, rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd neu famolaeth, statws priodas neu bartneriaeth sifil na chefndir troseddol.
Mae'r Cyngor yn mynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb ac yn croesawu ceisiadau gan ystod eang o ymgeiswyr, gan gynnwys y rhai sydd â chofnodion troseddol. Byddwn ni'n llunio rhestr fer o ran yr holl ymgeiswyr ar gyfer cyfweliad yn seiliedig ar
eu sgiliau, eu cymwysterau, a'u profiad.
Ein nod yw trin pob ymgeisydd am swyddi yn deg ac i beidio â gwahaniaethu'n annheg yn erbyn unrhyw ymgeisydd yn seiliedig ar euogfarn neu wybodaeth arall a ddatgelwyd yn eu Datgeliad.
Bydd rheolwyr sy'n ymwneud â'r broses recriwtio wedi'u hyfforddi'n briodol i nodi ac asesu perthnasedd ac amgylchiadau troseddau, gyda chymorth ac arweiniad priodol gan y Gwasanaethau Pobl. Bydd rheolwyr hefyd yn cael arweiniad a hyfforddiant priodol am y ddeddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â chyflogi cyn-droseddwyr.
Pan fydd Datgeliad yn rhan o'r broses recriwtio, gofynnwn i wybodaeth am gofnod troseddol gael ei nodi ar y ffurflen gais (hunanddatganiad). Rydym yn gwarantu mai dim ond y rhai sydd angen gweld y wybodaeth fel rhan o'r broses recriwtio fydd yn cael gwneud ac nad yw'n cael ei hystyried yn y broses o lunio rhestr fer neu gyfweliad.
Fel sefydliad sy'n asesu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer swyddi sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) gan ddefnyddio gwiriadau cofnod troseddol sy'n cael eu prosesu drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), mae'r Cyngor yn cydymffurfio'n llawn â'r côd ymarfer.
Rydym yn cydymffurfio'n llawn â'n rhwymedigaethau o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a deddfwriaeth berthnasol arall sy'n ymwneud â thrin, defnyddio, storio, cadw a gwaredu gwybodaeth tystysgrif yn ddiogel.
Mae'r Cyngor yn sicrhau bod ymgeiswyr am swyddi, cyflogeion a gwirfoddolwyr yn ymwybodol o fodolaeth côd ymarfer y DBS drwy gyhoeddi'r polisi hwn ar ei wefan a bydd yn sicrhau bod copi o'r côd ymarfer ar gael ar gais.
Ein nod yw trafod unrhyw fater a ddatgelwyd ar dystysgrif DBS gyda'r unigolyn sy'n gwneud cais am y swydd cyn gwneud penderfyniad i dynnu cynnig cyflogaeth amodol yn ôl.
Nid yw datgeliadau sy'n cynnwys euogfarnau blaenorol a/neu rybuddiadau o anghenraid yn rhwystr i gael swydd. Fodd bynnag, bydd methu â datgelu euogfarnau o'r fath lle mae'n ofynnol yn cael ei drafod ymhellach gyda'r unigolyn ynglŷn â'i resymau dros beidio â datgelu'r wybodaeth hon. Os credir bod ymgais i gael gwaith drwy dwyll, byddai hyn fel arfer yn arwain at dynnu'r cynnig o gyflogaeth yn ôl, neu gymryd camau disgyblu neu derfynu cyflogaeth, os yw'r unigolyn eisoes wedi'i benodi.
Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i dynnu'n ôl fynediad i'r gwasanaeth hwn lle mae sefydliad sy'n defnyddio gwasanaeth y corff ymbarél yn methu â chydymffurfio â'r polisi hwn.
