Polisi Recriwtio Cyn-Droseddwyr - Ebrill 2024

Mathau o Wiriadau DBS

Mae yna 4 math o wiriadau DBS y gall y Cyngor ofyn amdanynt:

Datgeliad Sylfaenol - Mae’n dangos euogfarnau heb eu disbyddu a rhybuddiadau amodol yn unig. Mae unrhyw swydd yn gymwys ar gyfer y math hwn o wiriad os bernir ei fod yn gymesur ac yn berthnasol i'r rôl.

Ni fydd euogfarnau a rhybuddiadau sydd wedi’u disbyddu yn cael eu cynnwys mewn gwiriad cofnodion troseddol lefel Sylfaenol ac nid oes angen iddynt gael eu datgelu gan ymgeiswyr sy'n gwneud cais am swydd sy'n gofyn am wiriad DBS Sylfaenol.

Datgeliad Safonol - Mae Datgeliad Safonol yn dangos euogfarnau sydd wedi’u disbyddu ac euogfarnau sydd heb eu disbyddu, rhybuddiadau, ceryddon a rhybuddion terfynol.

Datgeliad Manwl - Mae Datgeliad Manwl yn dangos yr un peth â gwiriad safonol ynghyd ag unrhyw wybodaeth sydd gan yr heddlu a ystyrir yn berthnasol i'r rôl.

Gwiriad Manwl gan wirio’r rhestr wahardd -Mae'r math hwn o wiriad yn dangos yr un peth â gwiriad manwl ynghyd â ph'un a yw'r ymgeisydd ar y rhestr o bobl a waharddwyd rhag gweithio gyda'r defnyddwyr gwasanaeth hyn.

 

Ar gyfer gwiriadau DBS manwl gyda thystysgrif gwahardd:

Gweithlu plant – yn darparu mynediad i wirio'r rhestr wahardd ar gyfer Plant

Gweithlu oedolion – yn darparu mynediad i wirio'r rhestr wahardd ar gyfer Oedolion

Gweithlu Plant ac Oedolion – yn darparu mynediad i wirio'r rhestr wahardd ar gyfer Plant ac Oedolion. Mae'r rhain ar gyfer rolau sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion mewn perygl.

Gweithlu arall - darparu mynediad i wirio'r rhestr wahardd ar gyfer Plant ac Oedolion. Mae'r rhain yn rolau nad ydynt yn ymwneud yn benodol â gweithio gyda phlant a/neu oedolion.

 

Ar gyfer swyddi lle gofynnir am dystysgrif DBS ar lefel Safonol neu Fanwl, bydd y gwiriadau hyn fel arfer yn dangos euogfarnau a rhybuddiadau sydd wedi’u disbyddu a heb eu disbyddu. Fodd bynnag, efallai na fydd rhai hen droseddau neu fân droseddau yn cael eu datgelu ar dystysgrifau DBS. Gelwir y rhain yn droseddau 'gwarchodedig'. Mae euogfarnau a rhybuddiadau gwarchodedig yn cael eu dileu trwy broses a elwir yn ‘hidlo’ fel nad ydynt yn cael eu datgelu ar dystysgrif DBS.

Dim ond am euogfarnau a rhybuddiadau nad ydynt wedi'u diogelu y gall y Cyngor ofyn i unigolyn.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Canllaw hidlo DBS 

Mae rhestr o droseddau a fydd bob amser yn cael eu datgelu ar dystysgrif DBS Safonol neu Fanwl (oni bai eu bod yn ymwneud â rhybuddiad ieuenctid). Gelwir y rhain yn ‘droseddau penodedig’ ac maent fel arfer o natur dreisgar neu rywiol ddifrifol neu’n ymwneud â diogelu plant ac oedolion mewn perygl.

Bydd pob euogfarn sy'n arwain at ddedfryd o garchar, p'un a yw wedi'i gohirio ai peidio, bob amser yn cael ei datgelu.

Ni fydd rhybuddiadau, rhybuddion a cheryddon ieuenctid yn cael eu datgelu’n awtomatig ar dystysgrif DBS Safonol neu Fanwl.

I'r rheiny sy'n 18 oed neu drosodd ar adeg y drosedd, dilëir euogfarn oedolyn o'r dystysgrif DBS:

  • os oes 11 mlynedd wedi mynd heibio ers dyddiad yr euogfarn; ac
  • os mai hon yw unig drosedd yr unigolyn, ac
  • os nad oedd wedi arwain at ddedfryd o garchar

Hyd yn oed wedyn, caiff yr euogfarn ei dileu dim ond os nad yw'n ymddangos ar y rhestr o droseddau na fydd byth yn cael eu dileu o dystysgrif. Os bydd unigolyn wedi cyflawni mwy nag un drosedd, bydd manylion ei holl euogfarnau'n cael eu cynnwys bob amser.

Dilëir rhybuddiad oedolyn ar ôl cyfnod o chwe blynedd ers dyddiad rhoi'r rhybuddiad – ac os nad yw'n ymddangos ar y rhestr o euogfarnau sy'n berthnasol o ran diogelu.

I'r rheiny sydd dan 18 oed ar adeg y drosedd, mae'r un rheolau yn berthnasol ag yn achos euogfarnau oedolion, ac eithrio bod y cyfnod perthnasol yn 5.5 mlynedd. Mae'r un rheolau yn berthnasol ag yn achos rhybuddiadau oedolion, ac eithrio bod y cyfnod perthnasol yn 2 flynedd.

Os caiff ymgeiswyr eu gwahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda grŵp agored i niwed, mae'n drosedd os ydynt yn ceisio, yn cynnig neu'n cymryd rhan mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda grŵp y maent wedi'u gwahardd rhag gweithio neu wirfoddoli gydag ef. Bydd unrhyw ymdrechion o'r fath gan unigolion sydd wedi'u gwahardd yn cael eu dwyn i sylw'r Heddlu.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus gydsynio i wiriadau cofnodion troseddol dilynol yn ystod cyflogaeth fel y bernir yn briodol gan y Cyngor neu gyrff rheoleiddio.