Polisi Recriwtio Mwy Diogel Ebrill 2024 (diweddaredig Medi 2024)

Rhan 1: Polisi recriwtio mwy diogel

Cyflwyniad

Mae diogelu’n fusnes i bawb, pa un a ydynt yn gweithio i’r Cyngor ynteu ar ran y Cyngor.

Mae gan Bolisi Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin yr Egwyddorion cyffredinol canlynol: 

  • Mae gan bob plentyn ac oedolyn mewn perygl (beth bynnag fo'i gefndir, diwylliant, hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, anabledd, crefydd, cred neu ddiffyg cred, oedran, rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd neu famolaeth, statws priodasol neu bartneriaeth sifil) hawl i gymryd rhan mewn cymdeithas ddiogel heb unrhyw drais, ofn, camdriniaeth, bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu.  
  • Mae gan bob plentyn ac oedolyn mewn perygl yr hawl i gael ei amddiffyn rhag niwed, esgeulustod, camfanteisio a chamdriniaeth.  
  • Mae gan bob cynghorydd, gweithiwr a gwirfoddolwr sy'n gweithio i'r Cyngor neu gyda'r Cyngor gyfrifoldeb am ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu camdrin a'u hesgeuluso a gweithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi eu buddiannau gorau.  

Bydd yr Awdurdod yn buddsoddi mewn gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar ac yn ymdrechu i atal sefyllfaoedd lle gall camdriniaeth, esgeulustod neu niwed ddigwydd. 

Nod Polisi Recriwtio a Dethol Cyngor Sir Caerfyrddin yw sicrhau bod penodiadau mewnol ac allanol i swyddi ar bob lefel o fewn yr Awdurdod yn digwydd yn deg, yn gyson ac yn ddiogel. Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn sicrhau bod y gweithle'n cynnwys gweithwyr sydd â'r wybodaeth, sgiliau, profiad a nodweddion i sicrhau'r perfformiad gorau posibl o ran gweithgareddau'r Cyngor, gan sicrhau gwasanaethau gwerth gorau i gymunedau Sir Gaerfyrddin.