Polisi Recriwtio Mwy Diogel Ebrill 2024 (diweddaredig Medi 2024)

Atodiadau

 

 

Mae gweithgaredd a reoleiddir yn waith na ddylai person sydd wedi'i wahardd ei wneud. 
  
I gael rhagor o wybodaeth am Weithgaredd a Reoleiddir gyda Phlant, gweler: Yr Adran Addysg - Gweithgaredd a Reoleiddir - Plant  
 
I gael rhagor o wybodaeth am Weithgaredd a Reoleiddir gydag Oedolion, gweler:  Yr Adran Iechyd - Gweithgaredd a Reoleiddir - Oedolion 
 
Mae canllawiau manwl hefyd ar Weithgaredd a Reoleiddir wedi'u cynnwys yn y Canllawiau i Reolwry ar Wiriadau a Hunanddateliadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) – Ebrill 2024

Proses
Paratoi bydd y rheolwr cyflogi yn gyntaf yn
  • nodi'r angen am staff asiantaet
  • llunio neu adolygu disgrifiad swydd a manyleb person
  • llenwi rhan un y ffurflen hysbysu asiantaeth
Pris
  • mae'r rheolwr cyflogi yn anfon y ffurflen hysbysu at swyddog arweiniol a fydd yn cysylltu ag asiantaethau perthnasol/cymeradw i gael dyfynbrisiau
  • swyddog arweiniol yn cadarnhau cyllid gyda rheolwr y gyllideb
  • yna cwblheir yr adran gostau ar y ffurflen (rhan 2) a'i dychwelyd at y rheolwr cyflogi
Cymeradwyaeth
  • rheolwr cyflogi yn cwblhau rhan 3: mae angen i bob ffurflen hysbysu asiantaeth gael ei chymeradwyo gan reolwr y gyllideb, pennaeth gwasanaeth cyn symud ymlaen i'r cam nesaf
Recriwtio
  • bydd y swyddog arweiniol yn casglu CVs ac yn eu hanfon at y rheolwr cyflogi
  • bydd y rheolwr cyflogi yn llunio rhestr fer ac yn hysbysu'r swyddog arweiniol am ddyddiadau addas ar gyfer cyfweliadau
  • cynhelir cyfweliadau drwy ddull priodol a benderfynwyd gan y rheolwr cyflogi
Gwiriadau cefndir a chymhwyster
  • swyddog arweiniol yn cael gwybod am yr ymgeisydd a ffefrir
  • bydd y swyddog arweiniol yn cynnal gwiriadau cefndir a hunaniaeth priodol ac yn gwirio cymwysterau
  • bydd y swyddog arweiniol yn coladu ac yn rhannu gyda'r rheolwr cyflogi

Cynefino

  • rheolwr cyflogi yn penderfynu ar ddyddiad dechrau addas
  • rheolwr cyflogi yn trefnu rhaglen sefydlu briodol, gan gynnwys darparu offer TG

Monitro

  • swyddog arweiniol i fonitro'r contract ar gyfnodau penodol (adolygu contract bob 12 wythnos)
  • y rheolwr cyflogi i ofyn am estyniadau contract a phennaeth y gwasanaeth a'r cyfarwyddwr i'w cymeradwyo
  • rheolwr llinell/rheolwr cyflogi i fonitro goruchwyliaeth a pherfformiad

Lawrlwytho copi o'n "Gwiriadau Cyn Cyflogi ar gyfer Gweithwyr Asiantaeth ac Ymgynghorydd"