Polisi Recriwtio Mwy Diogel Ebrill 2024 (diweddaredig Medi 2024)

Cyd-destun

Mae'r Polisi Recriwtio Mwy Diogel hwn yn cefnogi'r Polisi Diogelu Corfforaethol cyffredinol. Mae'r polisi hwn yn gweithio ochr yn ochr â pholisïau a chanllawiau eraill y Cyngor, gan gynnwys:

  • Polisi Recriwtio a Dethol 
  • Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 
  • Gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a Hunan-ddatgelu - Canllawiau i Reolwyr  
  • Geirdaon Cyflogaeth – Canllawiau (DIWYGIWYD)  
  • Polisi Cyfnod Prawf 
  • Polisi Datgelu Camarfer 
  • Cyfarwyddyd ynghylch Llunio Rhestr Fer 
  • Côd Ymddygiad ar gyfer Swyddogion 
  • Canllawiau ar Safonau Ymddygiad yn y Gweithle 
  • Perthynas Bersonol Agos: Canllawiau ynghylch Perthynas yn y Gwaith 
  • Polisi Recriwtio Cyn-droseddwyr (NEWYDD)  

Mae'r polisi hwn yn ystyried: 

  • Gofal Cymdeithasol Cymru: Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol a Chanllawiau i Weithwyr Cofrestredig  
  • Cyngor y Gweithlu Addysg: Côd Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol  
  • Gofal Cymdeithasol Cymru: Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan 

Dyma'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau cenedlaethol sy'n cefnogi'r datganiad polisi hwn:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 
    Canllawiau Statudol Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl  
  • Deddf Plant 1989 a 2004 
  • Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 a Deddf Adsefydlu Troseddwyr (Eithriadau) 1975, fel y'i diwygiwyd yn 2013 a 2020 
  • Deddf yr Heddlu 1997, Rhan 5  
  • Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 
  • Deddf Diogelu Rhyddiadau 2012 
  • Deddf Addysg 2002 
  • Deddf Diogelu Data 2018 
  • Canllawiau Llywodraeth Cymru, Cadw Dysgwyr yn Ddiogel, 2020 

Mae'r datganiad polisi hwn yn gysylltiedig â Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gyfer plant ac oedolion sydd mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod. 
  
Yn benodol, Adran 5: Honiadau / pryderon diogelu ynghylch Ymarferwyr a'r rhai sydd mewn swyddi o ymddiriedaeth.  
 
Yn benodol, mae Deddf Plant 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gael trefniadau ar waith sy'n adlewyrchu pwysigrwydd diogelu a hyrwyddo lles plant, gan gynnwys: 

  • Arferion recriwtio diogel ac arferion gweithio diogel parhaus ar gyfer unigolion y mae'r sefydliad neu'r asiantaeth yn caniatáu iddynt weithio'n rheolaidd gyda phlant, gan gynnwys polisïau ynghylch pryd i gael gwiriad o gofnodion troseddol 
  • Goruchwyliaeth a chymorth priodol i staff, gan gynnwys ymgymryd â hyfforddiant diogelu
  • Creu diwylliant o ddiogelwch, cydraddoldeb a gwarchodaeth o fewn y gwasanaethau y maent yn eu darparu 

A hefyd 

  • Sicrhau bod eu staff yn gymwys i gyflawni eu cyfrifoldebau o ran diogelu a hyrwyddo lles plant a chreu amgylchedd lle mae staff yn teimlo eu bod yn gallu codi pryderon a'u bod yn cael eu cefnogi yn eu rôl ddiogelu 
  • Dylid rhoi sesiwn sefydlu orfodol i staff, sy'n cynnwys ymgyfarwyddo â chyfrifoldebau amddiffyn plant a'r gweithdrefnau i'w dilyn os oes gan unrhyw un unrhyw bryderon am ddiogelwch neu les plentyn 
  • Dylai pob ymarferydd gael adolygiadau rheolaidd o'u hymarfer eu hunain i sicrhau bod ganddynt wybodaeth, sgiliau ac arbenigedd sy'n gwella dros amser