Polisi Recriwtio Mwy Diogel Ebrill 2024 (diweddaredig Medi 2024)

Cyfranogiad gan blant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl

Gall plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl wneud cyfraniad gwerthfawr i'r broses recriwtio a dylid ystyried eu cyfranogiad ar gyfer swyddi strategol a rheoli allweddol yn ogystal ag ar gyfer swyddi lle bydd gan staff llawer iawn o gyfrifoldeb am ofal personol e.e. staff preswyl.

Dylid ystyried y canlynol wrth gynllunio bod plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl yn cymryd rhan:

  • Eglurhad o'u rôl yn y broses, sut y bydd eu barn yn cael ei hystyried wrth ddethol a faint o bwys y rhoddir iddynt 
  • Paratoi a/neu hyfforddi ar gyfer y rôl y byddant yn ei chymryd 
  • Proses ar gyfer cael ôl-drafodaeth am y canlyniad.