Polisi Recriwtio Mwy Diogel Ebrill 2024 (diweddaredig Medi 2024)

Ffurflen Gais

  • Mae'n ofynnol gan y Cyngor fod ymgeiswyr am swyddi yn llenwi ffurflen gais safonol drwy'r broses recriwtio ar-lein. Ni dderbynnir Curriculum Vitae. Mae hyn yn sicrhau sail gyson wrth lunio rhestr fer a gwneud penderfyniadau ynghylch recriwtio. Gellir addasu'r broses hon mewn rhai amgylchiadau e.e. lle bo angen fformat arall ar yr ymgeisydd oherwydd anabledd. 
     
    Yn achos swyddi sy'n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion mewn perygl, mae risg y bydd CV ond yn cynnwys y wybodaeth y mae ymgeisydd yn dymuno ei chyflwyno a gall hepgor gwybodaeth berthnasol. 
      
    Dylai'r ffurflen gais sicrhau'r wybodaeth ganlynol:  
     
  • Nodi manylion yr ymgeisydd gan gynnwys enwau blaenorol a phresennol, cyfeiriad presennol a Rhif Yswiriant Gwladol  
  • DALIER SYLW: Er mwyn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, nid yw dyddiad geni wedi'i gynnwys ar y brif ffurflen gais, ond mae wedi'i gynnwys yn y ffurflen monitro amrywiaeth, y gall AD/Personél ei chadw ac nid yw ar gael i'r rhai sy'n rhan o'r broses o lunio rhestr fer 
    Cymwysterau academaidd a/neu alwedigaethol gyda manylion y corff dyfarnu a dyddiad dyfarnu 
  • Hanes llawn mewn trefn gronolegol ers gadael addysg uwchradd, gan gynnwys cyfnodau o unrhyw addysg/hyfforddiant ôl-uwchradd a gwaith rhan-amser a gwirfoddol yn ogystal â chyflogaeth amser llawn, gyda dyddiadau dechrau, esboniadau am gyfnodau heb fod mewn cyflogaeth nac addysg/hyfforddiant a'r rhesymau dros adael cyflogaeth
  • Manylion canolwyr, a dylai un ohonynt fod yn gyflogwr/rheolwr llinell presennol neu ddiweddaraf yr ymgeisydd. Ni dderbynnir geirda gan berthnasau neu ffrindiau. 
  • Os nad yw ymgeisydd yn gweithio gyda phlant neu oedolion sydd mewn perygl ar hyn o bryd, ond mae wedi gwneud hynny yn y gorffennol, mae'n bwysig hefyd cael geirda gan y person / sefydliad hwnnw a'r rheswm dros adael yn ychwanegol at y cyflogwr presennol neu ddiweddaraf 
  • Datganiad o'r sgiliau a'r galluoedd, a'r cymwyseddau/profiad y mae'r ymgeisydd yn credu sy'n berthnasol i'w addasrwydd ar gyfer y swydd a sut mae'n yn bodloni gofynion y proffil swydd 
  • Gofynnir am wybodaeth am unrhyw gollfarnau blaenorol - gan gynnwys euogfarnau, rhybuddiadau, ceryddon, rhybuddion neu orchmynion rhwymo sydd wedi darfod.