Polisi Recriwtio Mwy Diogel Ebrill 2024 (diweddaredig Medi 2024)

Gwiriadau Dilysu Cyn Cyflogi

Bydd pob cynnig penodi yn amodol hyd nes y bydd y gwiriadau cyn cyflogaeth angenrheidiol yn cael eu cwblhau'n foddhaol.

Bydd y Rheolwr Recriwtio yn:

  • Gwirio hunaniaeth yr ymgeisydd 
  • Gwirio cymwysterau proffesiynol yr ymgeisydd, fel sy'n briodol i'r rôl

Bydd y Tîm Recriwtio yn:

  • Gwirio bod dogfennau adnabod yr ymgeisydd yn briodol
  • Gwirio'i hawl i weithio yn y DU: (Gweler gwefan GOV.UK i gael gwybodaeth am sut i wirio bod hawl gan yr ymgeisydd i weithio yn y DU)
  • Cael Datgeliad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar y lefel briodol (oni bai bod Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn berthnasol). (Gweler Canllawiau i Reolwyr ar Wiriadau a Hunanddateliadau’r Gwasanaeth Datgelu Gwahardd (DBS) Recriwtio)
  • Gwirio bod Iechyd Galwedigaethol wedi asesu ei ffitrwydd meddyliol a chorfforol i gyflawni ei gyfrifoldebau gwaith, os yw'n briodol.
  • Gwirio statws/cofrestriad proffesiynol lle bo angen, h.y. Gofal Cymdeithasol Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg, Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. 
  • Derbyn geirda ysgrifenedig, a chael cadarnhad dros y ffôn lle bo hynny'n bosibl. Mae cwestiynau penodol sy'n ymwneud â honiadau neu bryderon diogelu a pha mor addas yw'r unigolyn i weithio gyda phlant ac oedolion mewn perygl wedi'u cynnwys yn y templed Cais am Eirda. (Gweler y Canllawiau ynghylch Geirdaon Cyflogaeth).
  • Gwirio a yw'r ymgeisydd wedi gweithio i'r Awdurdod o'r blaen a'r rheswm dros adael.

Cynnal gwiriadau ychwanegol pellach, fel y bo'n briodol, ar ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio y tu allan i'r DU. Gallai'r rhain gynnwys, lle maent ar gael: 
  
Gwiriad o gofnodion troseddol: gweler GOV.UK - Gwiriadau Cofnodion Troseddol ar gyfer Ymgeiswyr Tramor
  
Ar gyfer swyddi addysgu:  

  • cael llythyr gan yr awdurdod rheoleiddio proffesiynol yn y wlad lle mae'r ymgeisydd wedi gweithio, yn cadarnhau nad yw wedi gosod unrhyw sancsiynau na chyfyngiadau ar y person hwnnw, a/neu'n ymwybodol o unrhyw reswm pam y gallai'r person hwnnw fod yn anaddas i ddysgu
  • Os bydd unrhyw bryderon Diogelu yn cael eu datgelu gan y gwiriadau hyn, bydd y Rheolwr Recriwtio a'r Ymgynghorydd Adnoddau Dynol yn cael gwybod a bydd yn ofynnol iddynt gynnal asesiad risg.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler: Canllawiau i Reolwry ar Wiriadau a Hunanddateliadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) – Ebrill 2024 Recriwtio  

Dylai'r holl wiriadau:

  • Cael eu cadarnhau'n ysgrifenedig 
  • Cael eu dogfennu a'u cadw ar y ffeil personél (yn amodol ar gyfyngiadau ar gadw gwybodaeth a osodir gan reoliadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) 
  • Cael eu dilyn i fyny gyda'r ymgeisydd lle maent yn anfoddhaol neu lle mae anghysondebau yn y wybodaeth a ddarparwyd 

Rhoddir gwybod i'r Heddlu a/neu'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd am y wybodaeth ganlynol:

  • Gwelir bod yr ymgeisydd ar y Rhestrau Gwahardd, neu mae'r gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn dangos eu bod wedi cael eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant neu oedolion sydd mewn perygl gan Lys
  • Mae'r ymgeisydd wedi darparu gwybodaeth ffug yn ei gais neu i ategu'r cais
  • Mae pryderon difrifol ynghylch addasrwydd ymgeisydd i weithio gyda phlant neu oedolion mewn perygl.
  • Mae unrhyw un sy'n cael ei wahardd rhag gweithio gyda phlant neu oedolion mewn perygl yn cyflawni trosedd os ydynt yn gwneud cais am waith, yn cynnig gwneud gwaith, yn derbyn gwaith neu'n gwneud unrhyw waith sy'n gyfwerth â gweithgaredd a reoleiddir. Mae hefyd yn drosedd i gyflogwr gynnig gwaith mewn swydd a reoleiddir yn fwriadol, neu gaffael gwaith mewn swydd a reoleiddir i unigolyn sydd wedi'i wahardd rhag gweithio gyda phlant neu oedolion mewn perygl neu beidio â chael gwared ar unigolyn o’r fath o’r math yma o waith.