Polisi Recriwtio Mwy Diogel Ebrill 2024 (diweddaredig Medi 2024)

Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Wrth hysbysebu swyddi gwag, bydd y wybodaeth ganlynol yn cael ei darparu i ymgeiswyr:

  • Ymrwymiad y Cyngor i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant ac oedolion mewn perygl Y Proffil Swydd 
  • Bydd broses fetio cyn cyflogaeth briodol, gan gynnwys gwiriadau DBS a phrawf adnabod, yn cael ei chyflawni 
  • Datganiad yn nodi ei bod yn drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl (lle mae'r rôl hon yn cynnwys y math hwn o weithgaredd a reoleiddir) 
  • Dolen i'r polisi Diogelu Corfforaethol a pholisïau perthnasol eraill. 
  • Gwybodaeth berthnasol am yr Awdurdod a/neu'r maes gwasanaeth ac agweddau perthnasol ar gyflogaeth megis sefydlu, hyfforddi, goruchwylio, datblygu gyrfa, cymorth i weithwyr.