Polisi Recriwtio Mwy Diogel Ebrill 2024 (diweddaredig Medi 2024)

Llunio Rhestr Fer a'r Panel Cyfweld

Fel arfer, bydd y broses llunio rhestr fer yn cynnwys 3 person, ond o leiaf dau berson. Dylid ystyried cynrychioli amrywiaeth o fewn y panel. Dylai'r un panel dethol lunio'r rhestr fer a chyfweld â'r ymgeisydd. Nodwch na ddylid dirprwyo'r cyfrifoldeb o lunio rhestr fer i un aelod o'r panel; mae'n bwysig bod holl aelodau'r panel yn cymryd rhan.

Dylai o leiaf un aelod o'r panel fod wedi ymgymryd â hyfforddiant recriwtio mwy diogel. 

Bydd aelodau'r panel yn:

  • Meddu ar yr awdurdod angenrheidiol i wneud penderfyniadau ynghylch y penodiad 
  • Datgan buddiant os oes ganddynt gysylltiad agos neu berthynas ag unrhyw ymgeisydd ac yn esgusodi eu hunain o'r panel os yw'n briodol 
  • Cwrdd cyn y cyfweliad i gytuno ar eu meini prawf asesu yn unol â'r proffil swydd a pharatoi rhestr o gwestiynau y byddant yn eu gofyn i'r holl ymgeiswyr sy'n ymwneud â gofynion y swydd 
  • Nodi unrhyw faterion y maent am eu harchwilio gyda phob ymgeisydd yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir yn ei ffurflen gais ac yn y geirdaon (os derbyniwyd cyn y cyfweliad) 
  • Dylai nodiadau o atebion cyfweliad yr ymgeisydd gael eu casglu gan gadeirydd y panel a'u cadw am 6 mis.  

Dylid craffu ar bob ffurflen gais i wirio'r canlynol:

  • Maent wedi'u cwblhau'n llawn ac yn briodol. Ni ddylid derbyn ceisiadau anghyflawn 
  • Mae'r wybodaeth yn gyson ac nid yw'n cynnwys unrhyw anghysondebau 
  • Bylchau mewn cyflogaeth neu hyfforddiant a'r rhesymau a roddwyd drostynt 
  • Hanes o newid cyflogaeth dro ar ôl tro heb unrhyw ddilyniant clir o ran gyrfa neu gyflog neu symud o swydd barhaol i swydd dros dro yng nghanol gyrfa a'r rhesymau a roddwyd.

Bydd y panel yn:

  • Ystyried unrhyw anghysondebau neu fylchau mewn cyflogaeth a'r rhesymau a roddwyd 
  • Archwilio'r holl bryderon posibl 

Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau hunanddatganiad o'u cofnod troseddol neu unrhyw wybodaeth a allai olygu eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant neu oedolion mewn perygl. Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu gyda'r panel cyfweld nes ei fod wedi dewis yr ymgeisydd a ffefrir.

Fodd bynnag, byddem yn croesawu ymgeiswyr sy'n dymuno rhannu unrhyw wybodaeth berthnasol gan gysylltu â'r Rheolwr yn uniongyrchol am drafodaeth anffurfiol, agored yn gynharach, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Rydym yn gwerthfawrogi bod gan 27% o oedolion o oedran gweithio yn y DU gofnod troseddol a bydd unrhyw wybodaeth a rennir yn cael ei thrin mewn modd sensitif a theg.