Polisi Recriwtio Mwy Diogel Ebrill 2024 (diweddaredig Medi 2024)

Rolau a Chyfrifoldebau

Cyfrifoldeb yr adran gyflogi yw sicrhau bod y gweithdrefnau recriwtio a dethol mwy diogel yn effeithiol, a hynny gyda chefnogaeth a chyngor gan y tîm Gwasanaethau Pobl.

Cyfrifoldeb y Cyfarwyddwyr, Penaethiaid Gwasanaeth ac uwch reolwyr yw sicrhau bod gan yr adran weithdrefnau recriwtio mwy diogel ar waith a monitro cydymffurfiaeth contractwyr ac asiantaethau â gweithdrefnau a safonau recriwtio mwy diogel.  

Rhaid i unrhyw un sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r broses recriwtio e.e. llunio rhestr fer, cynnal cyfweliadau neu asesu "ddatgan budd" os oes ganddynt gysylltiad/perthynas bersonol agos ag unrhyw ymgeisydd. Gweler canllaw'r Côd Ymddygiad Gweithwyr a Chysylltiadau a Pherthnasoedd Personol Agos

Efallai fydd yn rhaid i reolwr arall sydd â phrofiad addas gamu i'r adwy i sicrhau annibyniaeth a thryloywder lle bo'n briodol a lle gallai fod canfyddiad o wrthdaro buddiannau.  

Oherwydd maint ac amrywiaeth y Cyngor, cyfrifoldeb rheolwyr recriwtio fydd recriwtio a dethol gweithwyr ar sawl lefel ar draws y sefydliad. Mae rheolwyr sy'n rhan o'r broses recriwtio a dethol staff sy'n dod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl yn gyfrifol am ymgyfarwyddo â darpariaethau'r polisi hwn a chydymffurfio â hwy.  

Mae hyfforddiant recriwtio mwy diogel yn ofyniad gorfodol ar gyfer rheolwyr recriwtio. Mae'n rhaid bod o leiaf un aelod o'r panel dethol wedi cymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn. Cysylltwch â'r Tîm Datblygu Trefniadaeth i gael rhagor o wybodaeth.  

Mae'r Grŵp Diogelu Corfforaethol yn gyfrifol am sicrhau bod gweithdrefnau recriwtio mwy diogel ar waith a monitro cydymffurfiaeth â'r gweithdrefnau.

Mae'r Swyddogion Diogelu Dynodedig yn gyfrifol am reoli pob honiad a wnaed yn erbyn staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion sydd mewn perygl yn eu hardal.

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin ddau swyddog dynodedig:

Rebecca Robertshaw, Swyddog Diogelu Dynodedig ar gyfer Plant a Phobl Ifanc: 
childprotection@sirgar.gov.uk

Cathy Richards, Swyddog Diogelu Dynodedig ar gyfer Oedolion Mewn Perygl: 
SCHAdultSafeguarding@sirgar.gov.uk