Polisi Recriwtio Mwy Diogel Ebrill 2024 (diweddaredig Medi 2024)

Sesiwn Sefydlu ynghylch Diogelu

Dylai fod rhaglen sefydlu ar gyfer yr holl staff a gwirfoddolwyr. Pwrpas y sesiwn sefydlu yw:

  • Darparu hyfforddiant a gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau diogelu ac amddiffyn plant y sefydliad. Dylai'r hyfforddiant hwn fod ar lefel sy'n briodol i rôl yr aelod o staff a'i gyfrifoldebau o ran plant 
  • Cefnogi unigolion mewn ffordd sy'n briodol ar gyfer eu rôl 
  • Cadarnhau'r ymddygiad a ddisgwylir gan staff 
  • Rhoi cyfleoedd i aelod newydd o staff neu wirfoddolwr drafod unrhyw faterion neu bryderon am ei rôl neu ei gyfrifoldebau 
  • Galluogi'r rheolwr llinell neu'r mentor i gydnabod unrhyw bryderon neu faterion am allu neu addasrwydd y person o'r cychwyn cyntaf ac ymdrin â nhw ar unwaith 

Sicrhau bod yr unigolyn yn derbyn datganiadau ysgrifenedig ynghylch:

  • Polisïau a gweithdrefnau ynghylch diogelu 
  • Hunaniaeth a chyfrifoldebau staff sydd â chyfrifoldebau diogelu dynodedig 
  • Arfer diogel a'r safonau ymddygiad a ddisgwylir 
  • Gweithdrefnau personél perthnasol eraill e.e. datgelu camarfer, gweithdrefnau disgyblu. 
  • Gwirio bod y Fframwaith Sefydlu Gofal Cymeithasol Cymru wedi'i gwblhau'n llwyddiannus lle bo hynny'n briodol.