Strategaeth Recriwtio a Chadw - Gorffennaf 2024
Yn yr adran hon
1. Trosolwg
Ein Gweledigaeth
“Cyngor Sir Caerfyrddin – Y cyflogwr o ddewis yng Ngorllewin Cymru”
Mae'r Strategaeth Recriwtio yn nodi ein hamcanion ac yn disgrifio sut y byddwn yn mynd i'r afael â'n heriau o ran adnoddau.
Mae hyn yn cyd-fynd â'n 'Strategaeth Gweithlu'' a'n 'Strategaeth Drawsnewid', ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad corfforaethol i gydraddoldeb ac amrywiaeth, yn ogystal â sicrhau bod arferion recriwtio diogel ar waith.
Mae hefyd yn cyd-fynd â datganiad gweledigaeth y Cabinet, yn benodol:
- Recriwtio mewn modd cystadleuol a gweithio tuag at wella lefelau recriwtio yn barhaus ar draws y sefydliad. Ceisio deall y camau sydd eu hangen er mwyn dod yn gyflogwr o ddewis yng Ngorllewin Cymru.
- Gweithio i farchnata Cyngor Sir Caerfyrddin fel cyflogwr deniadol i brentisiaid, pobl sy'n gadael yr ysgol a graddedigion. Canolbwyntio ar leihau nifer y bobl ifanc sy'n mudo o Sir Gaerfyrddin ac o ardaloedd gwledig.
- Gweithio gyda grwpiau perthnasol i hyrwyddo'r Cyngor fel cyflogwr ar draws pob cymuned gan gynnwys o fewn y gymuned Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Mae'r strategaeth hon yn canolbwyntio ar elfen denu, recriwtio a chadw y strategaeth gweithlu ac ni fwriedir iddi fod yn rhestr gynhwysfawr o'n holl waith. Yn hytrach, mae'n amlinellu'r meysydd allweddol lle bydd ein ffocws yn cael yr effaith fwyaf.
Mae meddu ar strategaeth a phwrpas clir yn llywio popeth a wnawn ar gyfer gweithwyr presennol a darpar weithwyr.
Ni yw'r cyflogwr mwyaf yn Sir Gaerfyrddin gyda 8445 o staff wedi'u cyflogi'n uniongyrchol a thua 100 o weithwyr asiantaeth yn cael eu cyflogi gennym ni.
Rydym yn recriwtio i lawer o rolau amrywiol ledled y sir sy'n cwmpasu amrywiaeth o broffesiynau ar bob lefel. Mae hyn yn ein gwneud yn gyflogwr lleol deniadol a chafodd 5456 o geisiadau eu prosesu yn chwarter cyntaf 2025.
Yn ôl y Gymdeithas Llywodraeth Leol, ystyrir bod y gyfradd trosiant staff ar gyfartaledd mewn llywodraeth leol yn y DU, yn gyffredinol, rhwng 13% a 17% bob blwyddyn. Mae'r dadansoddiad yn dangos bod y gyfradd trosiant yn yr awdurdod yn is na'r cyfartaledd.
Adran | BA21/22 | BA22/23 | BA23/24 |
BA24/25 |
Y Prif Weithredwr | 6.65% | 10.42% | 6.23% | 8.45% |
Gwasanaethau Corfforaethol | 6.19% | 7.66% | 6.49% | 7.14% |
Lle, Seilwaith a Datblygu Economaidd | 12.66% | 10.77% | 10.47% | 9.69% |
Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd | 8.91% | 9.35% | 9.23% | 10.70% |
Cymunedau |
11.17% | 12.91% | 10.22% | 9.17% |
Cyfanswm |
9.75% | 10.37% | 9.36% | 9.94% |
Er bod ein trosiant yn gymharol sefydlog, mae gennym feysydd sy'n recriwtio llawer o weithwyr o hyd, yn benodol mewn rolau rheng flaen, er enghraifft: Staff gofal, staff arlwyo, cynorthwywyr teithwyr a glanhawyr.