Strategaeth Recriwtio a Chadw - Gorffennaf 2024

2. Ein Heriau Recriwtio a Chadw

2.1 Denu ymgeiswyr o safon

Mae anhawster o ran dod o hyd i bobl sydd â'r lefel gywir o brofiad a chymwysterau i berfformio ar y lefel ofynnol yn bryder i adrannau, sy'n treulio amser yn prosesu ymgeiswyr na ellir eu penodi.

2.2 Cadw

Mae trosiant staff yn rhan o gylch bywyd cyflogaeth, ond nid yw'r holl drosiant yn angenrheidiol. Er mwyn lleihau costau recriwtio a chadw ein staff medrus, mae'n bwysig ein bod yn deall y rhesymau dros beidio â chadw staff a'r camau y gellir eu cymryd i leihau trosiant diangen.

2.3 Cysylltu cynlluniau'r gweithlu â recriwtio'r gweithlu

Mae anghysondeb o ran rhoi fframwaith cynllunio gweithlu'r awdurdod ar waith ar draws y sefydliad. Mae hwn yn offeryn allweddol wrth bennu cynlluniau darparu gwasanaethau byrdymor a hirdymor adrannau.

2.4 Prinder cenedlaethol wrth recriwtio

Dros y blynyddoedd diwethaf, bu prinder cenedlaethol ym meysydd gofal, gwaith cymdeithasol, cynllunio, addysgu a gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. Byddwn yn parhau i weld cyfnodau lle mae prinder cenedlaethol mewn meysydd gwaith penodol. Mae ffactorau sylweddol a fydd yn dylanwadu ar hyn, gan gynnwys yr hinsawdd economaidd, polisïau mewnfudo, systemau addysg, a newidiadau mewn agweddau cymdeithasol tuag at broffesiynau penodol. Mae'r ffactorau hyn gyda'i gilydd yn dylanwadu ar faint o weithwyr sydd ar gael, sy’n golygu bod mwy o brinder mewn rhai swyddi.

2.5 Cystadleuaeth gan eraill

Rydym yn cystadlu am rai swyddi gydag awdurdodau cyfagos, y GIG a'r sectorau manwerthu, twristiaeth a lletygarwch.

Mae sawl sector sy'n cystadlu am gronfeydd bach o dalent, er enghraifft, yn achos gweithwyr gofal, mae digon o ddarpar ymgeiswyr, ond bydd y gronfa hon o ymgeiswyr posibl hefyd yn cael ei denu i weithio mewn sectorau eraill oherwydd bod cyflog cyfatebol a llai o gyfrifoldeb.

2.6 Defnydd helaeth o asiantaethau

Mewn llawer o feysydd, rydym yn dibynnu ar staff asiantaeth i ddarparu ein gwasanaethau. Mae defnydd helaeth o asiantaethau yn y swyddi canlynol:

  • Gofalwyr preswyl
  • Gweithwyr tiroedd a glanhau
  • Llwythwyr a gyrwyr gwastraff
  • Glanhawyr
  • Athrawon a swyddi cymorth addysgu

Mae dibynnu ar staff asiantaeth yn golygu costau sylweddol ac yn creu ansicrwydd ynghylch a ellir llenwi'r swyddi hynny ac felly a fydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu.