Y Polisi a'r Weithdrefn Dileu Swyddi - Ionawr 2024
Yn yr adran hon
Cyflwyniad
Beth yw Dileu Swyddi?
O dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 bydd 'dileu swydd' ('redundancy') yn digwydd pan gaiff cyflogeion ('employees') eu diswyddo oherwydd:
- Bod y cyflogwr wedi, neu'n bwriadu, rhoi'r gorau i barhau â'r busnes y cyflogid y cyflogai ('employee') i'w wneud neu yn y man lle cyflogid y cyflogai; neu
- Bod gofynion y busnes am gyflogeion i ymgymryd â gwaith o fath penodol neu yn y man lle'u cyflogid, wedi dod i ben neu wedi lleihau neu y disgwylir iddo ddod i ben neu i leihau.
Enghraifft
Nid oes ar adran angen darparu'r un lefel gwasanaeth mwyach ac o ganlyniad, mae nifer y staff sy'n ofynnol i ddarparu'r gwasanaeth wedi gostwng.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymroi i ddarparu amgylchedd gwaith sefydlog a sicr i'w gyflogeion cyhyd ag y bo modd. Er hynny, efallai y bydd adegau ac amgylchiadau lle bydd newidiadau yn rôl a gwaith Awdurdodau Lleol, technoleg newydd a newidiadau trefniadaethol eraill, yn golygu bod angen dileu swyddi. Nod y polisi hwn a'r weithdrefn hon yw lleihau effaith dileu swyddi a rhoi cymorth i unigolion yn ystod yr adeg hon.
