Y Polisi a'r Weithdrefn Dileu Swyddi - Ionawr 2024
Yn yr adran hon
Atodiad 1
Cyfnod diogelu o ran dileu swyddi yn ystod beichiogrwydd ac wrth ddychwelyd o absenoldeb teulu.
O 6 Ebrill 2024, bydd gweithwyr sy'n feichiog neu'n dychwelyd ar ôl absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir yn cael statws blaenoriaeth ar gyfer cyfleoedd adleoli pan fydd swyddi'n cael eu dileu.
O dan y gyfraith bresennol, mae gan weithwyr ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb rhiant a rennir neu absenoldeb mabwysiadu ddiogelwch arbennig eisoes pan fydd swyddi'n cael eu dileu. Mae ganddynt yr hawl i gael cynnig swydd wag amgen addas, os oes un ar gael, cyn i'w swyddi gael eu dileu. Mae hyn yn rhoi blaenoriaeth i weithwyr yn ystod y mathau hyn o absenoldeb i gael cyfleoedd adleoli dros weithwyr eraill y mae eu swyddi'n cael eu dileu.
Mae Deddf Diogelu rhag Dileu Swyddi (Absenoldeb Beichiogrwydd a Theulu) 2023 yn ymestyn y statws blaenoriaeth i weithwyr beichiog a'r rhai sydd wedi dychwelyd yn ddiweddar o absenoldeb mamolaeth/mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir. Mae'r llywodraeth bellach wedi cyhoeddi'r rheoliadau sy'n nodi sut y bydd yr hawliau newydd yn gweithio'n ymarferol ac yn dod â'r hawliau i rym o 6 Ebrill 2024.
Pwy sy'n cael eu diogelu a phryd?
| Hyd y diogelu | |
|---|---|
| Gweithiwr beichiog sy'n cymryd absenoldeb mamolaeth | Dechrau: Pan fydd y cyflogwr wedi cael gwybod am feichiogrwydd Gorffen: 18 mis o ddyddiad geni'r plentyn os caiff ei hysbysu i'r cyflogwr cyn diwedd absenoldeb mamolaeth (neu 18 mis o'r Wythnos Geni Disgwyliedig os na hysbyswyd) (Yn cynnwys unrhyw amser a dreulir yn ystod y cyfnod hwn ar absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb statudol arall) |
| Gweithiwr sydd wedi dioddef camesgoriad | Dechrau: Pan fydd y cyflogwr wedi cael gwybod am feichiogrwydd Gorffen: Bythefnos ar ôl diwedd y beichiogrwydd, ar gyfer beichiogrwydd sy'n dod i ben cyn 24 wythnos. Sylwer: Mae beichiogrwydd sy'n dod i ben ar ôl 24 wythnos yn cael eu hystyried yn farw-enedigaethau a byddai gan y gweithiwr hawl i absenoldeb mamolaeth statudol (gweler uchod). |
| Gweithwyr yn cymryd absenoldeb mabwysiadu | Dechrau: Dechrau absenoldeb mabwysiadu Gorffen: 18 mis o ddyddiad y lleoliad neu ddyddiad cyrraedd Prydain Fawr (os yw'r plentyn yn cael ei fabwysiadu o wlad dramor). (Yn cynnwys unrhyw amser a dreulir yn ystod y cyfnod hwn ar absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb statudol arall) |
| Gweithiwr yn cymryd absenoldeb rhiant a rennir | Sylwer: Os yw'r gweithiwr hefyd wedi cymryd absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu, mae'r cyfnodau uchod yn berthnasol yn lle hynny. Dechrau: Dechrau'r absenoldeb rhiant a rennir Gorffen: Os cymerir llai na chwe wythnos o absenoldeb rhiant a rennir, ar ddiwedd yr absenoldeb. Os cymerir mwy na chwe wythnos ddi-dor o absenoldeb rhiant a rennir, 18 mis o ddyddiad geni'r plentyn (gan gynnwys unrhyw amser a dreulir ar absenoldeb statudol). |
