Cynllunio ymlaen llaw ar gyfer y Cyfnod Cyn yr Etholiad
12 awr yn ôl
Bydd etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal ar 7 Mai 2026, gyda'r cyfnod cyn yr etholiad i ddechrau canol/diwedd Mawrth 2026.
Rhaid i ni i gyd ystyried hyn wrth gynllunio gwaith, digwyddiadau a gweithgareddau yn y dyfodol. Yn ystod cyfnod hwn mae angen i'r Cyngor sicrhau ei fod yn ddiduedd. Rhaid cymryd gofal i sicrhau bod y Cyngor yn cynnal safiad niwtral ac nad yw'n rhoi amlygrwydd na chyhoeddusrwydd i unrhyw ymgeiswyr neu bleidiau.
I gefnogi staff yn ystod y cyfnod hwn, bydd y Protocol Cyn yr Etholiad yn cael ei ryddhau cyn i'r cyfnod cyn yr etholiad ddechrau a bydd yn ymdrin â materion fel cyhoeddusrwydd, digwyddiadau, cyhoeddiadau a briffiau, a sut y dylid rheoli'r rhain yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.
Bydd hefyd yn cynghori ynghylch defnyddio adnoddau'r Cyngor, gohebiaeth ag ymgeiswyr, cyfarfodydd a defnyddio adeiladau'r cyngor.
Byddwn yn rhannu'r canllawiau gyda chi cyn gynted ag y byddant ar gael.
Sylwer bod y canllawiau'n berthnasol i holl aelodau'r cyngor, gweithwyr a chontractwyr sy'n gwneud gwaith ar ran y cyngor.
