"Rydw i am ddefnyddio mwy o Gymraeg... ond mae'n codi ofn arna i!"

9 awr yn ôl

Hoffech chi ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eich gwaith, ond does dim hyder gyda chi i wneud hynny?

Beth am sefyll o flaen eich tîm a siarad ychydig mwy o Gymraeg, neu fynd i gyfarfodydd a chyflwyno'n ddwyieithog?

Rydyn ni'n siŵr eich bod chi wedi clywed hyn o'r blaen, ond... mae ymarfer wir yn gwneud gwahaniaeth.

Rydyn ni wedi gwrando ar eich adborth ac wedi trefnu cwpl o sesiynau i'ch helpu chi i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eich gwaith.

Ewch i un o'r sesiynau newydd hyn i gael cyfle i ymarfer unrhyw waith sydd gyda chi, neu rywbeth sydd ar y gweill. Mae hwn yn gyfle anffurfiol i chi ymarfer o flaen grŵp bach o bobl, mewn awyrgylch diogel, hamddenol a chefnogol — ac i fagu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith. Ewch amdani – rhowch gynnig arni!

Siarad siop:

Dyma gyfle i siarad am unrhyw beth a phopeth a rhoi'r byd yn ei le.

Mae'n addas i BAWB ar bob lefel – p'un a hoffech chi glywed mwy o Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol neu ddefnyddio beth sydd gyda chi pryd bynnag y gallwch chi.

·       Dydd Llun, 8 Rhagfyr: 12pm – 1pm (Ymunwch ar TEAMS yma Dolen Ymuno â'r Cyfarfod)

·       Dydd Mawrth, 9 Rhagfyr: 1pm – 2pm Ystafell Bwyllgorau 1, Heol Spilman

Clwb ymarfer:

Ydych chi am gael mwy o hyder i gyflwyno gwaith o flaen grŵp?

Ymunwch â ni i gael cyfle i ymarfer unrhyw gyflwyniadau sydd ar ddod, neu sesiynau grŵp sydd gyda chi ar y gweill.

Mae'n gyfle anffurfiol i chi ymarfer o flaen grŵp bach, mewn awyrgylch diogel, hamddenol a chefnogol — ac i fagu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.

·       Dydd Mawrth, 9 Rhagfyr: 2pm – 3pm Ystafell Bwyllgorau 1, Heol Spilman

·       Dydd Gwener, 12 Rhagfyr: 10am – 11am (Ymunwch ar TEAMS yma Dolen Ymuno â'r Cyfarfod)

Codi hyder:

P'un a oes gyda chi lawer neu ychydig o Gymraeg, dyma gyfle i gwrdd â thiwtor i ymarfer. Mae gyda ni gyfleoedd 1-1 neu sesiynau grŵp bach.

Cofrestrwch eich manylion yma