Beth yw Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl?

7 diwrnod yn ôl

Beth yw Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl?

Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (CCIM) yn gwrs hyfforddi a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd wedi’i gynllunio i addysgu pobl sut i adnabod arwyddion a symptomau afiechyd meddwl a darparu cymorth ar sail cymorth cyntaf. Yn yr un modd â dysgu cymorth cyntaf corfforol, mae CCIM yn addysgu pobl sut i adnabod yr arwyddion rhybuddio hollbwysig hynny o salwch meddwl ac i deimlo'n hyderus i gynghori rhywun i gael cymorth priodol. Mae cysylltiad agos rhwng straen, iechyd meddwl a llesiant emosiynol ac maent yn ffactorau allweddol wrth ystyried ein hiechyd a’n llesiant yn gyffredinol. Mae hyn yn cynnwys ein gallu i ddelio â gofynion a phwysau bywyd bob dydd. Mae ymgorffori hyfforddiant CCIM yn ein sefydliad yn annog pobl i siarad yn fwy agored am iechyd meddwl, yn lleihau stigma ac yn creu diwylliant mwy cadarnhaol.

Beth yw Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn yr awdurdod?

Mae’r Swyddogion CCIM yn gwneud gwaith ataliol a rhagweithiol. Yn gyffredinol, rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn y gweithle yw bod yn bwynt cyswllt ar gyfer gweithwyr sy’n profi problem iechyd meddwl neu drallod emosiynol. Gallai'r rhyngweithio hwn amrywio o gael sgwrs gychwynnol i gefnogi'r person i gael cymorth priodol. Nid yw Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl wedi'u hyfforddi i fod yn therapyddion neu'n seiciatryddion ond gallant gynnig cymorth cychwynnol trwy wrando a rhoi arweiniad anfeirniadol. Mae ganddynt y gallu i ddarparu cymorth cychwynnol a chlust anfeirniadol, empathetig ac maent yn gallu cyfeirio rhywun yn hyderus at gymorth priodol, yn fewnol ac yn allanol. Mae ganddynt hefyd y gallu i ddelio ag argyfyngau.

Sut i gysylltu?

Gallwch gysylltu ag unrhyw Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Mae manylion cyswllt yr holl Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl cymwys ar y fewnrwyd. Gallwn eich sicrhau bod pob sgwrs yn gyfrinachol.

Sut i ddod yn CCIM

Ein cwrs nesaf i fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yw dydd Iau 27 a dydd Gwener 28 Chwefror 2025 rhwng 9:30yb - 4:30yp ym Mharc Myrddin, Caerfyrddin.

Ewch i Gwybodaeth i Ymgeiswyr, i wneud cais i fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, ewch i Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Oedolion i weld dyddiadau, cynnwys y cwrs ac archebu eich lle, cliciwch ar y ddolen cwrs uchod.

Sylwch, y dyddiad cau ar gyfer derbyniad mis Chwefror yw dydd Llun, Ionawr 27ain 2025.

Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant