Deddf Caffael Newydd 2023
22 diwrnod yn ôl
Bydd Deddf Caffael 2023, diweddariad sylweddol i gyfraith gaffael y DU yn dilyn ymadawiad y DU o'r UE, yn dod i rym ar 24 Chwefror 2025 (wedi'i ohirio o'r dyddiad cychwyn gwreiddiol sef 28 Hydref 2024).
Mae Deddf Caffael 2023 yn cyflwyno diweddariadau a diwygiadau sylweddol i bolisïau ac arferion caffael. Nod y newidiadau hyn yw gwella tryloywder, effeithlonrwydd a gwerth am arian ar draws yr holl weithgareddau caffael.
Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn cymryd lle Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 a Rheoliadau Contractau Consesiynau 2016. Mae Deddfwriaeth Eilaidd Ychwanegol, o'r enw Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024, hefyd wedi'i chyflwyno, gan bwysleisio blaenoriaethau datganoledig a chyd-fynd â'r fframwaith cyffredinol.
Mae uchafbwyntiau allweddol Deddf Caffael 2023 newydd yn cynnwys:
- Mesurau Tryloywder Gwell
- Mwy o ofynion adrodd a datgelu. Mae enghreifftiau’n cynnwys:
Ø Cyhoeddi manylion am gaffaeliadau posibl yn y dyfodol lle mae amcangyfrif o werth y Contract yn fwy na £2m (bydd angen cyhoeddi'r hysbysiad piblinell caffael gyntaf erbyn 26 Mai 2025).
Ø Bydd angen cyhoeddi 'Hysbysiadau Tryloywder' cyn dyfarnu contract yn uniongyrchol i gyflenwr (mae rhai eithriadau'n berthnasol), a bydd angen cyfnod segur o 8 diwrnod gwaith cyn ymrwymo i gontract. Mae hyn hefyd yn berthnasol i bob dyfarniad uniongyrchol (gan gynnwys eithriadau y gofynnir amdanynt o dan gymal 12 yn y Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau) dros £30k gan gynnwys TAW.
Ø Bydd yr Uned Caffael Corfforaethol yn cydlynu'r rhain ond bydd yn dibynnu ar ddarparu gwybodaeth brydlon a chywir gan swyddogion.
- Prosesau Caffael Symlach
- Gweithdrefnau symlach ar gyfer contractau gwerth is i leihau'r baich gweinyddol ar gyflenwyr.
- Canllawiau cliriach ar gyfer dewis cyflenwyr a gwerthuso ceisiadau.
- Ffocws ar Gynaliadwyedd a Gwerth Cymdeithasol
- Ei gwneud yn ofynnol i ystyried effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol wrth wneud penderfyniadau caffael.
- Annog busnesau bach a chanolig i gymryd rhan.
- Cryfhau Goruchwylio ac Atebolrwydd
- Cyflwyno dulliau cydymffurfiaeth ac archwilio llymach.
- Cosbau newydd am beidio â chydymffurfio er mwyn atgyfnerthu cadw at safonau caffael.
5. Gwell Rheoli Contractau:
- Mwy o bwyslais ar reoli contractau gweithredol er mwyn sicrhau bod y canlyniadau disgwyliedig cael eu cyflawni.
- Darpariaethau clir ar gyfer addasu contractau, datrys anghydfodau a monitro perfformiad.
Cefnogi'r newid a'r goblygiadau ar gyfer gweithgareddau Caffael
Rhaid i bob tendr newydd a hysbysebir o 24 Chwefror 2025 ymlaen gyd-fynd â gofynion Deddf Caffael newydd 2023*. Mae paratoadau ar y gweill i sicrhau ein bod yn cydymffurfio. Mae hyn yn cynnwys:
- Diweddaru'r polisïau a dogfennaeth mewnol i adlewyrchu'r rheolau newydd. Mae Rheolau newydd o ran Gweithdrefnau Contractau yn cael eu paratoi ar hyn o bryd.
- Mae hyfforddiant parhaus ar gael i swyddogion ar y newidiadau.
- Adolygu contractau parhaus a chaffael arfaethedig i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â gofynion newydd.
*Bydd yr holl Gontractau/Fframweithiau yr ymrwymwyd iddynt cyn 24 Chwefror 2025 yn parhau i fod yn ddarostyngedig i'r rheoliadau cyfredol (Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) ac ni fydd y newidiadau a gyflwynir o dan Ddeddf Caffael Newydd 2023 yn effeithio arnynt.
Cyfarwyddyd pellach:
Gwybodaeth (fideos):
The Official Transforming Public Procurement Knowledge Drops - GOV.UK (www.gov.uk)
Cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru:
Deddf Caffael 2023: dogfennau canllaw| LLYW. CYMRU