Diwrnod amser i siarad

16 diwrnod yn ôl

Mae gan bawb iechyd meddwl, a thrwy sôn amdano gallwch helpu eich hun ac eraill i sicrhau llesiant cadarnhaol.

Beth yw Diwrnod Amser i Siarad?

Diwrnod Amser i Siarad yw sgwrs fwyaf y genedl am iechyd meddwl ac mae'n cael ei gynnal ddydd Iau, 6 Chwefror 2025. Mae'r diwrnod hwn yn ymwneud â siarad yn agored a chreu cymunedau cefnogol ymysg eich ffrindiau, teuluoedd, gweithleoedd a chydweithwyr; mae'n ddiwrnod i ddod at eich gilydd i siarad, gwrando a newid bywydau.

Pam mae siarad yn bwysig?

Mae siarad am ein hiechyd meddwl yn bwysicach nag erioed.

·       Nid yw siarad yn arwydd o wendid

·       Mae siarad yn lleihau stigma

·       Mae’n gwella eich perthynas ag eraill

·       Mae’n eich helpu i wella

·       Mae siarad yn eich helpu i deimlo'n ddiogel

·       Rydych yn teimlo eich bod yn gallu gofyn am gymorth pan fydd ei angen arnoch

·       Gall gwrando ar rywun helpu'r person hwnnw i deimlo ei fod yn cael ei gefnogi ac yn llai unig. Mae'n rhan o fod yn gyfrifol am llesiant eich hun, a'r hyn y gallwch ei wneud i gadw'n iach.

Pan fydd un person yn siarad, bydd eraill yn ymuno.

Ymunwch â'r Tîm Iechyd a Llesiant ar 6 Chwefror 2025 am 12:30 drwy Teams a chael trafodaeth agored am iechyd meddwl a sut y gallwch gynnwys y trafodaethau hyn yn eich timau.

Mae sawl ffordd y gallwch ymuno â'r e-sgwrs;

Ymunwch ar y diwrnod gan ddefnyddio'r ddolen ar y dudalen Beth sy' Mlaen.

Anfonwch neges e-bost at iechyd&llesiant@sirgar.gov.uk i gael dolen i'r cyfarfod.

Ewch i'n tudalennau mewnrwyd i gael rhagor o Gymorth a Chefnogaeth.

Dewch i ni siarad!

Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant