Eich dyfodol, eich nod: Gwneud y mwyaf o'r flwyddyn newydd
1 diwrnod yn ôl
Mae dechrau blwyddyn newydd yn gyfle i ddechrau o'r newydd, drwy ymuno â'r gampfa, ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar neu groesawu Veganuary. Mae blaenoriaethu ein hiechyd corfforol a'n hiechyd meddwl yn aml ar frig yr agenda. Ond beth am eich iechyd ariannol?
Y newyddion da yw bod amser o hyd i roi hwb i'ch cynilion ymddeol cyn diwedd y flwyddyn dreth ar 5 Ebrill 2025.
Dyma'ch cyfle i wneud y mwyaf o lwfansau treth y flwyddyn ariannol hon drwy fanteisio ar eich budd arbennig – y cynllun Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (Rhannu Cost AVC). Mae'n ffordd gost-effeithlon a hyblyg o gynyddu eich pot pensiwn gan arbed trethi.*
I'ch helpu i ddechrau arni, mae My Money Matters yn cynnal gweminar llawn gwybodaeth, “End of tax year approaching – act now” ym misoedd cyntaf y flwyddyn newydd. Ymunwch â nhw i ddysgu sut y gallai Rhannu Cost AVC eich helpu i arbed mwy o dreth wrth gynyddu eich pot ymddeol.
Peidiwch â cholli allan - archebwch eich lle heddiw!
Ydych chi am ddysgu mwy am arbedion treth? Edrychwch ar flog My Money Matters: Your end of tax year checklist.
*Mae pensiwn yn fuddsoddiad hirdymor; gall gwerth y gronfa amrywio a gall fynd i lawr. Gall eich incwm yn y pen draw ddibynnu ar faint y gronfa ar ôl ymddeol, y gyfradd llog yn y dyfodol a deddfwriaeth trethi.
Bydd angen i chi ystyried pa fuddsoddiad sy'n addas i chi. Siaradwch ag ymgynghorydd ariannol annibynnol os oes angen cyngor ariannol arnoch.
Mae cynllun Rhannu Cost AVC ar gael i aelodau gweithredol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn unig. Cyn gwneud neu ddiwygio eich cynllun Rhannu Cost AVC, dylech ystyried a ydych yn gallu fforddio gwneud hynny.
Mae treth yn seiliedig ar amgylchiadau unigol a gall newid yn y dyfodol.