'Meddwl Sir Gâr yn Gyntaf'
3 diwrnod yn ôl
Cofiwch eich bod yn 'Meddwl Sir Gâr yn Gyntaf' wrth gaffael unrhyw nwyddau, gwaith neu wasanaethau o dan £30,000 (gan gynnwys TAW).
Mae llawer o fanteision ynghlwm wrth gefnogi busnesau Sir Gaerfyrddin, ac rydym yn eich annog i estyn gwahoddiadau i'r busnesau hyn i gyflwyno dyfynbris.
Yn ogystal â chefnogi busnes lleol, mae yna fanteision eraill hefyd o weld yr adborth sydd wedi dod i law gan dimau sydd eisoes wedi gwneud hyn. Gallwch gael rhagor o fanylion ar y tudalennau Caffael ar y fewnrwyd.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gan eich tîm/gwasanaeth os ydych eisoes wedi cefnogi busnes lleol wrth fynd allan i gaffael a hoffem rannu eich stori gyda chydweithwyr ar draws yr awdurdod. E-bostiwch Caffael@sirgar.gov.uk
Os nad ydych yn siŵr a oes unrhyw fusnesau yn Sir Gaerfyrddin a fyddai'n addas i'ch gofynion, anfonwch e-bost at businessengagement@sirgar.gov.uk a fydd yn gallu eich cyflwyno i fusnesau perthnasol, os yw'n berthnasol.