Ailgylchu yn y Gweithle. Mae'n bryd i ni sortio hyn
3 awr yn ôl
Neges i'ch atgoffa ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith yng Nghymru i wahanu ac ailgylchu eich holl wastraff yn y swyddfa.
Yn ystod archwiliadau diweddar yn Heol Spilman, Neuadd y Sir a Pharc Myrddin, roedd tystiolaeth o halogiad mewn sawl bin - gan gynnwys plastig mewn biniau cardbord/papur a deunydd lapio plastig mewn biniau bwyd.
Bydd ein contractwr gwastraff yn gwrthod cymryd whilfin cyfan os bydd tystiolaeth o unrhyw halogiad, sy'n amharu ar y gwaith ac yn achosi cost ddiangen. Mae'r broblem hon yn digwydd ar draws sawl safle.
Mae pob bin wedi'i labelu, a rhaid gwahanu gwastraff yn y categorïau canlynol:
- Cardbord a phapur
- Cynwysyddion plastig, cartonau a metelau
- Poteli a jariau gwydr
- Gwastraff bwyd (dim pecynnu)
- Biniau gwastraff gweddilliol ar gyfer pob gwastraff na ellir ei ailgylchu
Os nad ydych yn siŵr beth sy'n mynd i ble, cyfeiriwch at ein A-Z o Ailgylchu ar gyfer staff ar ein mewnrwyd. Gallwch hefyd lawrlwytho posteri gyda rhagor o fanylion o wefan Wrap: Y Busnes o Ailgylchu Cymru - Canllawiau ar gyfer pob gweithle
Mae eich cydweithrediad yn hanfodol i sicrhau ein bod yn bodloni safonau ailgylchu ac yn osgoi casgliadau'n cael eu gwrthod. Diolch am eich cefnogaeth wrth sicrhau bod ein safleoedd yn cydymffurfio ac yn gynaliadwy.
