Tashwedd (Movember)
5 awr yn ôl
Beth yw Tashwedd (Movember)?
Cynhelir 'Tashwedd' bob mis Tachwedd i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd dynion fel canser y prostad, canser y ceilliau, iechyd meddwl, ac atal hunanladdiad. Gan ddechrau yn Awstralia yn 2003, mae wedi dod yn fudiad byd-eang, sy'n annog dynion i dyfu mwstas i ddechrau sgyrsiau a dangos cefnogaeth.
Nodau Tashwedd:
- Cynyddu ymwybyddiaeth o faterion iechyd dynion
- Codi arian ar gyfer rhaglenni ymchwil a chymorth
- Hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw ac annog ceisio cymorth
- Lleihau stigma trwy feithrin trafodaethau agored
Sut allwn ni gefnogi Tashwedd?
- Tyfu mwstas: Cymerwch ran trwy dyfu unrhyw arddull o fwstas i godi ymwybyddiaeth a dechrau sgyrsiau.
- Digwyddiadau Codi Arian: Trefnwch werthiannau pobi, cwisiau, neu heriau noddedig i godi arian ar gyfer yr achos.
- Dechrau Tîm Tashwedd: Crëwch dîm gyda chydweithwyr i godi arian ar y cyd ac olrhain cynnydd ar wefan Tashwedd.
- 'Tasg Tashwedd': Ewch ati i gerdded neu redeg 60 cilomedr yn ystod mis Tachwedd, sy'n cynrychioli'r 60 o ddynion sy’n marw oherwydd hunanladdiad yn fyd-eang bob awr.
- Rhannu Gwybodaeth: Defnyddiwch lythyrau newyddion, posteri a chyfarfodydd i ledaenu'r neges ac annog deialog agored am iechyd dynion.
- Cefnogi’ch gilydd: Siaradwch gyda chydweithwyr, ffrindiau a theulu. Weithiau, gall sgwrs syml wneud byd o wahaniaeth.
Gadewch i ni wneud gwahaniaeth gyda'n gilydd
Mae Tashwedd yn ymwneud â mwy na mwstas yn unig - mae'n ymwneud â gwella iechyd dynion a chefnogi ein gilydd. Os ydych chi'n ddyn ac yn 50 oed neu'n hŷn, siaradwch â'ch meddyg teulu am brawf PSA, hyd yn oed os nad oes gennych chi symptomau. Mae'r gwasanaeth iGP hefyd yn cynnig profion PSA ac ymgyngoriadau testosteron i ddynion dros 40 oed neu'r rhai sydd â symptomau, gan ddarparu gofal cyflym heb ddenu sylw am gyfraddau gostyngol i staff Cyngor Sir Caerfyrddin. Archebwch drwy: www.theigp.co.uk/ccc
I gael rhagor o wybodaeth am iechyd meddwl yn y gweithle, ewch i'n tudalennau ar y fewnrwyd. Unrhyw gwestiynau? E-bostiwch Health&Wellbeing@sirgar.gov.uk
