Wendy Walters, y Prif Weithredwr, yn diolch i Arweinydd y Cyngor am ei waith
3 awr yn ôl
Yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Darren Price fel Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin am resymau personol, mae Prif Weithredwr yr Awdurdod Lleol, Wendy Walters, wedi diolch i'r Cynghorydd Price, ac wedi diolch iddo ar ran y Cyngor hefyd.
“Yn bersonol, rwy'n ddiolchgar iawn am ei gefnogaeth a'i arweinyddiaeth dros y tair blynedd a hanner diwethaf, ac mae'n rhaid bod hwn wedi bod yn benderfyniad anodd dros ben iddo. Er bydd Darren yn parhau i fod yn gynghorydd ac yn rhan o grŵp Plaid Cymru, rydyn ni i gyd yn dymuno'n dda iddo fe a'i deulu yn y dyfodol.
“Bydd ein Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Linda Evans, yn ymgymryd â swyddogaethau'r Arweinydd nes bod Arweinydd newydd yn cael ei benodi, a'r disgwyl yw bydd hynny'n digwydd yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Llawn ar 10 Rhagfyr 2025. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gefnogi'r Cynghorydd Linda drwy raglen waith nesaf y Cyngor, ac rwy'n hyderus y bydd holl swyddogion y Cyngor yn rhoi eu cefnogaeth lawn iddi yn ystod y cyfnod trosglwyddo hwn."
