Ymgyrch 'Defnyddia dy Gymraeg' 2025
1 diwrnod yn ôl
Rydyn ni'n falch o gefnogi'r ymgyrch 'Defnyddia dy Gymraeg' unwaith eto eleni a fydd yn cael ei chynnal o 24 Tachwedd i 5 Rhagfyr.
Mae'r ymgyrch yn gyfle gwych i ni fel Cyngor i hyrwyddo ein holl wasanaethau Cymraeg a dangos bod y Gymraeg yn berthnasol i bawb.
Prif nod yr ymgyrch yw ysbrydoli ac annog pawb i ddefnyddio'u Cymraeg bob dydd – yn y cartref, yn y gwaith, dros y ffôn, wyneb yn wyneb ac ar-lein. Peidiwch â phoeni am gamgymeriadau - dyma sut mae pawb yn dysgu! Defnyddiwch eich Cymraeg heddiw – ambell i air neu sawl un. Mae pob gair yn cyfrif.
Er mwyn hyrwyddo defnydd mewnol o'r Gymraeg, rydyn ni wedi ychwanegu swigen oren at broffiliau Teams pawb sydd ar lefel 3 neu uwch, er mwyn i ni adnabod ein gilydd a dechrau sgyrsiau yn Gymraeg.
Fodd bynnag, os nad oes gennych lun ar eich proffil, ni all y system osod y swigen. I ychwanegu llun, cliciwch ar eich enw ar frig y dudalen yn Teams a gwasgwch, 'newid llun'. Yna ewch ati i lwytho llun o'ch dewis.
I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at iaithgymraeg@sirgar.gov.uk
Mae cefndiroedd Teams ar gael hefyd i chi eu defnyddio gyda'r swigen oren, a fydd yn helpu'r rhai mewn cyfarfod i weld a ydych chi'n gallu siarad Cymraeg neu'n dysgu'r iaith.
Gallwch lawrlwytho'r cefndiroedd newydd hyn ar dudalennau Marchnata a'r Cyfryngau ar y fewnrwyd o dan yr adran 'Asedau i'ch helpu'.
Yr wythnos nesaf, wrth inni barhau i ddathlu'r ymgyrch 'Defnyddia dy Gymraeg', bydd gennym ragor o wybodaeth am gyrsiau Cymraeg penodol.
