Ymunwch â'r ymgyrch i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben 

1 diwrnod yn ôl

Fel Cyngor rydyn ni'n cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn eleni, sy'n dechrau ddydd Mawrth, 25 Tachwedd ac sy'n parhau am 16 Diwrnod o Weithredu.   

Er bod cam-drin domestig yn effeithio ar y ddau ryw, trais gan ddynion yn erbyn menywod yw'r rhan fwyaf o'r digwyddiadau treisgar

Y thema bwerus eleni yw codi llais ("We Speak Up") ac mae'n annog dynion i ddefnyddio eu llais i greu byd lle mae pawb yn ddiogel, yn gyfartal ac yn cael eu parchu. I ddysgu mwy, ewch i'r wefan: https://www.whiteribbon.org.uk/wespeakup 

Beth mae'r Cyngor yn ei wneud?   

I ddangos ein cefnogaeth, byddwn yn chwifio baner y Rhuban Gwyn yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin a Neuaddau’r Dref yn Llanelli a Rhydaman ac yn goleuo Neuadd y Sir ar 25 Tachwedd.  

Byddwch hefyd yn sylwi ar arbedwr sgrin ymgyrch y Rhuban Gwyn ar eich gliniadur gwaith sy'n gofyn i chi wneud yr addewid.  

Byddwch hefyd yn sylwi ar bosteri yn ein hadeiladau a gorsafoedd bysiau neu negeseuon fideo ar y sgriniau yn ein llyfrgelloedd, theatrau, canolfannau Hwb, canolfannau hamdden a Phentre Awel.  

Beth allwch chi ei wneud?  

Gwnewch Addewid y Rhuban Gwyn: i beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod. 

Dewch yn Gynghreiriad: Gall dynion fod yn gynghreiriaid gweithredol trwy ddysgu, gwrando ar a chefnogi menywod a merched.  

Dewch yn Llysgennad neu Hyrwyddwr: Gwnewch wahaniaeth gwirioneddol yn eich gweithlu a'ch cymuned, cofrestrwch i fod yn llysgennad neu hyrwyddwr y Rhuban Gwyn.  Mae Carl Daniels, Uwch-reolwr Chwaraeon a Hamdden, wedi bod yn Llysgennad Rhuban Gwyn ers pum mlynedd. Dywedodd: “Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn ymgyrch hanfodol sy’n tynnu sylw at fater pwysig iawn sef trais yn erbyn menywod a merched. Fel Llysgennad y Rhuban Gwyn, gŵr a thad, rwyf wedi ymrwymo i gefnogi’r achos hwn a hyrwyddo amgylcheddau diogel a chynhwysol i bawb yn ein cymuned.” 

Cadwch lygad am lythyr newyddion yr wythnos nesaf, a fydd yn sôn am y cymorth, y gefnogaeth a’r arweiniad sydd ar gael i’n holl staff.