Cyflwyno Copilot Chat i holl staff y Cyngor

16 awr yn ôl

O ddydd Llun, 27 Hydref ymlaen, bydd gan holl staff y Cyngor fynediad at Copilot Chat, sef cynorthwyydd Deallusrwydd Artiffisial o fewn Teams a Microsoft Edge.

P'un a ydych chi'n drafftio dogfennau, yn crynhoi cynnwys neu'n taflu syniadau, bydd Copilot Chat yn gallu eich helpu i weithio'n ddoethach ac yn gyflymach.

Mae'r cynorthwyydd Deallusrwydd Artiffisial hwn, sef Copilot Chat, yn rhan o'n pecyn o gymwysiadau Microsoft 365 sydd ar gael i'r holl staff. Mae wedi'i gynllunio i gynorthwyo â'ch tasgau o ddydd i ddydd gan gadw eich data'n ddiogel a sicrhau ei fod yn cydymffurfio â safonau GDPR a Ffiniau Data yr UE.

Er mwyn cefnogi'r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial yn y Cyngor, bydd Polisi Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol Cyhoeddus newydd yn cael ei lansio ym mis Rhagfyr. Bydd y canllawiau yn eich helpu i ddefnyddio'r offeryn hwn yn ddiogel ac yn foesegol.

Trwy ddilyn ein canllawiau, ein nod yw gwella ymddiriedaeth a dibynadwyedd ein technolegau Deallusrwydd Artiffisial, gan ddarparu atebion diogel a chydymffurfiol sy'n cefnogi eich tasgau o ddydd i ddydd yn ogystal â diogelu eich data a'ch preifatrwydd.

Er mwyn cefnogi'r holl staff, rydyn ni wedi lansio modiwl e-ddysgu Deallusrwydd Artiffisial newydd, sydd wedi'i ddatblygu i'ch helpu i ddeall a defnyddio deallusrwydd artiffisial yn eich tasgau dyddiol. Mae'r modiwl hwn yn cwmpasu ystod eang o bynciau, gan gynnwys hanfodion Deallusrwydd Artiffisial, sut i’w ddefnyddio mewn gwahanol feysydd, a sut i ddefnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial yn effeithiol ac yn foesegol.

>Cliciwch yma i gymryd rhan 

>Rhagor o wybodaeth am Copilot 

Gallwch hefyd ymuno â Microsoft bob dydd Mawrth am 2pm ar gyfer gweminar Microsoft 365 Copilot Chat sy'n para am 60 munud, ac sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer staff cynghorau llywodraeth leol.

Mae pob gweminar yn cynnwys awgrymiadau promptio ymarferol, enghreifftiau'r byd go iawn, a sesiwn holi ac ateb byw. P'un a ydych chi'n chwilfrydig am Ddeallusrwydd Artiffisial neu am wella gwasanaethau a chydweithio, mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu a chysylltu. >Cliciwch yma i gofrestru