Dathlu ein sgiliau Cymraeg
4 diwrnod yn ôl
Mae’r Gymraeg i’w chlywed yn ddyddiol yma yn Sir Gâr, ac fel Cyngor, dy ni’n awyddus i ddysgu mwy am eich barn chi fel staff o ran defnydd o’r iaith yn y gweithle.
Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu ein Strategaeth Sgiliau Iaith, sy’n ein helpu fel Cyngor i gynllunio ein gweithlu o ran sgiliau a chyfleoedd dysgu.
Byddem ni yn gwerthfawrogi eich amser wrth gwblhau yr holiadur byr yma, er mwyn i ni gasglu syniadau a chynllunio ein gwaith at y dyfodol.
Dyddiad cau: Dydd Mercher, Hydref 29
Cysylltwch â Llinos Evans (Polisi) os oes unrhyw gwestiynau.