Digwyddiad staff i lansio adroddiad Gweithredu ar Newid Hinsawdd Sir Gâr ar 3 Tachwedd

15 awr yn ôl

Dydd Llun, 3 Tachwedd, yw dechrau Wythnos Hinsawdd Cymru. I nodi'r achlysur, rydym yn cynnal digwyddiad staff i lansio adroddiad Gweithredu ar Hinsawdd Sir Gâr sydd wedi'i adolygu ac a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 29 Medi.

Ymunwch â ni yn Siambr Neuadd y Sir, Caerfyrddin, ddydd Llun, 3 Tachwedd am 1pm. Os na allwch fod yn bresennol yn bersonol, byddwch hefyd yn gallu ymuno â'r digwyddiad ar-lein.

Dewch draw i ddarganfod mwy gan y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, yn ogystal ag aelodau o'r tîm amgylchedd naturiol a chynaliadwyedd.

Bydd hwn yn gyfle i ddathlu'r gwaith sy'n cael ei wneud ar draws yr awdurdod i'n gwneud yn fwy cynaliadwy, diogelu ffynonellau ynni, lleihau carbon, ac i warchod a gwella ein hamgylchedd naturiol. Mae hefyd yn gyfle i ddarganfod sut y gallwch chi chwarae eich rhan i helpu i wneud gwahaniaeth.

Ymunwch ar-lein yma