Hanner ffordd drwy'r flwyddyn dreth

15 awr yn ôl

Gan fod llai na chwe mis yn weddill o'r flwyddyn dreth, nawr yw'r amser i wneud y mwyaf o'ch lwfansau di-dreth a rhoi hwb i'ch cynilion ymddeol.

Gallai cyfrannu at y cynllun Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (Shared Cost AVC) eich helpu i'w ddefnyddio cyn ei golli.

Diolch i'r arbedion cyfraniadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol sydd ar gael, bydd cyfraniad o £100 yn costio £72.08 yn unig i drethdalwr ar y gyfradd sylfaenol!*

Mae pob diwrnod cyflog yn gyfle gwerthfawr i fuddsoddi yn eich dyfodol, ta faint o amser sydd gennych cyn ymddeol. Ac er bod faint mae pawb yn gallu ei fforddio yn wahanol, mae'r cynllun Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol yn gadael i chi ddechrau cyfrannu am gyn lleied â £2 y mis. Gallwch ychwanegu fel a phryd mae'n addas i chi, o fewn terfynau penodol.

Felly, beth yw'r oedi? Mae'n bryd teimlo'n dda am eich llesiant ariannol.

Ymunwch â'r cynllun heddiw.

Oes gennych chi gwestiynau o hyd? Ymunwch â gweminar fyw gan My Money Matters, sydd ar gael i aelodau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol am ddim a heb fod angen cofrestru.  Cliciwch yma a dewiswch bwnc sydd o ddiddordeb i chi.

Unrhyw gwestiynau? E-bostiwch ni yn support@my-money-matters.co.uk, ffoniwch 01252 959 779 neu ewch i wefan My Money Matters i ddefnyddio'r gwasanaeth sgwrsio byw.

*Dangosir arbedion cyfradd sylfaenol fel canllaw yn unig. Mae cyfradd sylfaenol yn tybio bod unigolyn yn talu 20% o gyfraniadau Treth Incwm ac 8% o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Bydd yr arbedion gwirioneddol yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol a pherfformiad y gronfa fuddsoddi, sy'n cael ei buddsoddi gan eich darparwr Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol.

Ni allwch gael mynediad at gynllun Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol nes eich bod yn 55 oed, gan godi i 57 oed yn 2028.

Mae cynlluniau Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol yn gynnyrch pensiwn, ac ynghyd ag unrhyw gynhyrchion pensiwn eraill sydd gennych, maent yn cyfrif tuag at eich lwfans di-dreth blynyddol o £60,000.

Dylech ystyried eich fforddiadwyedd cyn diwygio eich cynllun Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol.
Mae hon yn wybodaeth gyffredinol.  Gallech golli arian. Gofynnwch am gyngor rheoledig.