Y Cyngor yn talu am gost pigiadau ffliw i staff
2 diwrnod yn ôl

Mae llawer o staff y cyngor yn gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim, (bydd eich meddyg teulu yn cysylltu â chi os ydych yn rhan o'r categorïau hyn) ond os nad ydynt, bydd y cyngor yn talu'r gost unwaith eto eleni.
Gall y ffliw fod yn ddifrifol a chael brechiad ffliw bob blwyddyn yw'r ffordd orau o amddiffyn eich hun.
Os ydych yn gymwys, fe'ch anogir i gael eich brechlyn ffliw am ddim i. Mae rhagor o wybodaeth am fod yn gymwys ar gael yma
Fodd bynnag, os nad ydych yn gymwys i gael brechlyn am ddim, gallwch dalu i gael brechlyn mewn detholiad o fferyllfeydd cenedlaethol ac annibynnol a bydd y cyngor yn ad-dalu'r ffi.
I hawlio'r ad-daliad ewch i'ch cyfrif My View, sydd bellach ar gael o unrhyw ddyfais, a dewiswch yr adran treuliau – cofiwch gadw eich derbynneb fel prawf eich bod wedi cael y brechiad. Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch i gael mynediad i'ch cyfrif My View, siaradwch â’ch rheolwr.
Rhannwch y wybodaeth hon â chydweithwyr nad ydynt yn cael y llythyr newyddion hwn os gwelwch yn dda.