Ymgynghoriadau

11 awr yn ôl

Os yw eich adran neu'ch gwasanaeth yn bwriadu cynnal ymgynghoriad, sicrhewch eich bod yn cysylltu â Marchnata a'r Cyfryngau cyn gynted â phosibl fel y gellir cynnwys eich gwaith yn y blaengynllun gwaith.

Nodwch na all unrhyw ymgynghoriadau pellach fynd yn fyw ar ôl 31 Hydref (oni bai eu bod yn statudol) i sicrhau nad ydynt yn cael eu cynnal ar yr un pryd â'r ymgynghoriad ynghylch y Gyllideb ddiwedd mis Rhagfyr.

Gofynnir i chi anfon e-bost i ymgynghori@sirgar.gov.uk os ydych yn cynllunio unrhyw waith ymgysylltu/ymgynghori yn y dyfodol neu os oes gennych unrhyw ymholiadau.