Dysgu neu roi hwb i dy Gymraeg yr hydref yma
9 diwrnod yn ôl
Cymera’r hydref hwn fel cyfle i ddatblygu dy sgiliau Cymraeg – pa un a wyt ti’n ddechreuwr llwyr neu eisiau mireinio dy sgiliau, mae cwrs addas i bawb.
✨ Cyrsiau (dim ond 2–4 awr yr wythnos):
- Dechreuwyr / Mynediad – Perffaith os wyt ti’n ddechreuwr llwyr neu’n gwybod ychydig o Gymraeg.
- Sylfaen – Dysgu am batrymau allweddol yr iaith.
- Canolradd – Meithrin hyder gyda dy Gymraeg bob dydd.
- Uwch – Trafod amryw o bynciau yn rhwydd.
👥 Cymraeg Gwaith – Dysgu gyda dy gydweithwyr (hyd at Fawrth 2026):
- Mynediad Rhan 2: Dydd Iau 1-4pm neu ddydd Mercher 1 – 3pm (i’r rhai sydd eisoes yn gwybod ychydig o Gymraeg)
- Sylfaen: Dydd Iau 9:30am–12:30pm
- Canolradd: Dydd Gwener 9:30am–12:30pm
- Codi Hyder: Dydd Mercher 13:00 – 14:30 (i’r rhai sydd angen hwb i siarad Cymraeg)
💡 Sesiynau gloywi i ddysgu ar dy gyflymder dy hun:
- Ieithgar Lefel 1 – Cyfarchion, misoedd, dyddiadau a mwy.
- Ieithgar Uwch – Symleiddio gramadeg a threigladau .
Mae’r ddau ar gael unrhyw bryd ar Thinqi – perffaith ar gyfer dysgu hyblyg.