Gwella Cyfathrebu Mewnol: mae eich llais yn bwysig

1 diwrnod yn ôl

Fel rhan o'r adborth o'r Arolwg Ymgysylltu â Gweithwyr blynyddol, tynnodd llawer ohonoch chi sylw at gyfathrebu mewnol fel maes lle gallen ni wneud mwy. Er mwyn ein helpu i ddeall hyn yn well, rydyn ni'n cynnal arolwg dilynol byr. Byddwn ni hefyd yn cynnal nifer o grwpiau ffocws i archwilio eich barn yn fanylach. Bydd eich mewnbwn, boed hynny drwy'r arolwg, y grwpiau ffocws, neu'r ddau, yn ein helpu i lunio gwelliannau sydd wir yn eich cefnogi yn eich swydd.

Diolch i chi ymlaen llaw am gymryd amser i rannu eich barn.

Bydd yr arolwg yn cau ddydd Gwener 6 Mawrth 2026.

Dweud eich dweud – cwblhewch yr arolwg