Gweminarau am ddim ynghylch pensiynau ac ymddeol gyda My Money Matters

1 diwrnod yn ôl

Gall deall eich pensiwn a chynllunio ar gyfer y dyfodol deimlo'n gymhleth - yn enwedig ochr yn ochr â phwysau ariannol o ddydd i ddydd. Dyna pam mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn gweithio gyda My Money Matters i ddarparu cymorth ac addysg ariannol ymarferol i staff.

Fel rhan o'r cymorth hwn, mae'r holl staff yn cael eu gwahodd i gyfres o weminarau byw, dan arweiniad arbenigwyr, a fydd yn eich helpu i ddeall yn well y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, eich opsiynau ymddeol, a phenderfyniadau allweddol i'w hystyried drwy gydol eich gyrfa.

Mae'r sesiynau hyn yn rhad ac am ddim, yn agored i staff ym mhob cam mewn gyrfa, ac yn cael eu cyflwyno'n glir gyda digon o gyfle i ddysgu wrth eich pwysau eich hun.

Gweminarau sydd ar y gweill:

Ymddeoliad hyblyg a chi – beth sydd angen i chi ei wybod:
📅Dydd Gwener, 13 Chwefror | 🕥 12:30
👥 Addas ar gyfer yr holl staff
👉 Cofrestrwch yma:
https://events.teams.microsoft.com/event/20b1095a-24ba-4f6c-9619-4cdf96713301@40b63c41-5e61-41c1-b682-e5ce00c952de

Pobl dros 50 oed – Peidiwch â difaru am eich ymddeoliad:
📅Dydd Llun, 16 Chwefror | 🕥 14:30
👥Ar gyfer staff 50+ oed
👉 Cofrestrwch yma:
https://events.teams.microsoft.com/event/268e9d9c-3bc0-4ac9-a904-07b6b8cc5e8c@40b63c41-5e61-41c1-b682-e5ce00c952de

Deall y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol:
📅 Dydd Mawrth, 24 Chwefror | 🕧 14:30
👥 Addas ar gyfer yr holl staff
👉 Cofrestrwch yma:
 
https://events.teams.microsoft.com/event/f704f3f6-adeb-4127-b421-91acaf9f9f67@40b63c41-5e61-41c1-b682-e5ce00c952de

Pam y dylech chi ddod i'r gweminarau?

  • Meithrin hyder yn eich cynlluniau pensiwn ac ymddeol
  • Deall eich opsiynau ar wahanol gyfnodau bywyd
  • Cael arweiniad clir, ymarferol gan arbenigwyr pensiwn

Gallwch chi ddod i gynifer o sesiynau ag y dymunwch. Mae pob gweminar yn unigol felly mae croeso i chi ymuno â'r rhai sydd fwyaf perthnasol i chi.