Cyfieithu Peirianyddol - defnyddiwch gyda gofal
4 diwrnod yn ôl
Gall offer cyfieithu peirianyddol fel Microsoft Translator ein helpu i weithio'n ddwyieithog, ond nid yw bob amser yn gywir. Ni ddylai byth ddisodli cyfieithiadau proffesiynol ar gyfer dogfennau ffurfiol neu gyhoeddus.
Pwyntiau allweddol i'w cofio:
- Mae cyfieithu peirianyddol yn aml yn cael trafferth gydag idiomau, chwarae ar eiriau a gwallau a geir yn y testun gwreiddiol.
- Dylech ddefnyddio cyfieithu peirianyddol at ddibenion mewnol yn unig, fel:
- Deall hanfod negeseuon e-bost neu adroddiadau byr.
- Drafftio atebion anffurfiol yn y Gymraeg.
- PEIDIWCH â defnyddio cyfieithu peirianyddol ar gyfer cofnodion, llythyrau, posteri, cynnwys gwefannau, postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, neu unrhyw beth sy’n cael ei anfon yn allanol gan gynnwys proffiliau swyddi a hysbysebion neu ar gyfer defnydd mewnol boed ar y fewnrwyd neu mewn llythyrau newyddion.
- Rhaid i holl ddogfennau swyddogol neu gyhoeddus gael eu hanfon at yr Uned Gyfieithu.
- Peidiwch ag anfon dogfennau sydd wedi'u cyfieithu'n beirianyddol i'r Uned Gyfieithu i'w prawfddarllen, gan fod hyn yn ychwanegu camau diangen ac yn oedi dychwelyd y gwaith.
- Mae'r Uned Gyfieithu yn dilyn proses benodol ar ôl derbyn cais cyfieithu ac yn gyntaf oll yn defnyddio meddalwedd cof cyfieithu'r uned i sicrhau cysondeb a chywirdeb.
- Mae'r canllaw hwn yn berthnasol i'r Gymraeg a phob iaith arall.
Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â'r Uned Gyfieithu.
