Cyfleuster newydd a gwell Fy Mhensiwn Ar-lein - cofrestrwch heddiw
4 diwrnod yn ôl
Mae'r tîm Gwasanaethau Corfforaethol yn falch iawn o gyflwyno cyfleuster newydd, gwell Fy Mhensiwn Ar-lein. Ffordd glyfrach, fwy greddfol o reoli eich pensiwn, wedi'i chynllunio gyda chi mewn golwg.
Os oedd gennych fynediad i Fy Mhensiwn Ar-lein o'r blaen, bydd angen i chi gofrestru eto.
Yr hyn y byddwch chi'n ei werthfawrogi am gyfleuster newydd Fy Mhensiwn Ar-lein:
- Diogelwch gwell - dilysu dau gam - mewngofnodwch gan ddefnyddio'ch e-bost a chôd untro a anfonir i'ch ffôn.
- Cynllunydd Ymddeol - Defnyddiwch offer hawdd i'ch helpu i gynllunio ar gyfer eich dyfodol.
- Dyluniad symudol-gyfeillgar - cyrchwch eich cyfrif unrhyw bryd, unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
- Llywio symlach – dewch o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch gyda chynllun cliriach, symlach
P'un a ydych chi'n gwirio manylion eich pensiwn, yn cynllunio ymlaen llaw neu'n syml eisiau tawelwch meddwl, mae Fy Mhensiwn Ar-lein yn rhoi popeth ar flaenau eich bysedd, yn ddiogel ac yn gyfleus 24/7.
Mae cofrestru'n gyflym ac yn hawdd, ac unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn gallu monitro eich pensiwn fel erioed o'r blaen.
Bydd sesiynau galw heibio i gael help gyda chofrestru yn y lleoliadau canlynol:
- Derbynfa Neuadd y Sir – Dydd Llun 26 a Dydd Mawrth 27 Ionawr 9am-5pm
- Canolfan Pentre Awel – Dydd Iau 29 a Dydd Gwener 30 Ionawr 9am-5pm
Os ydych chi'n cael unrhyw anawsterau wrth gofrestru, cysylltwch â'r adran Pensiynau
