Cyllideb yr Hydref : cyfraniadau pensiwn drwy ildio cyflog

5 diwrnod yn ôl

Neges gan My Money Matters, ein partner llesiant ariannol

Cyhoeddodd y Llywodraeth newidiadau yng nghyllideb yr hydref a fydd yn effeithio ar sut mae cyfraniadau pensiwn ildio cyflog yn gweithio o fis Ebrill 2029 ymlaen. Rydym am wneud yn siŵr eich bod chi'n deall beth sy'n newid ac, yn bwysicach fyth, beth mae hyn yn ei olygu o ran eich cynilion ymddeol.

Beth sy'n newid?

O 6 Ebrill 2029 ymlaen, bydd terfyn o £2,000 y flwyddyn ar ryddhad Yswiriant Gwladol ar gyfraniadau pensiwn ildio cyflog. Er nad yw hyn yn effeithio ar eich prif bensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae’n effeithio ar aelodau mewn cynlluniau Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVC).

O fis Ebrill 2029 ymlaen, bydd cyfraniadau dros £2,000 yn dal i gael rhyddhad treth incwm llawn ond byddant yn destun cyfraniadau Yswiriant Gwladol gan y gweithiwr a'r cyflogwr.

Y newyddion da: Does dim byd yn newid tan 2029

Bydd eich cynllun Rhannu Cost AVC yn parhau i weithredu'n union fel y mae heddiw am y tair blynedd nesaf. Byddwch yn parhau i gael rhyddhad Yswiriant Gwladol llawn ar bob cyfraniad, waeth beth fo'r swm, tan fis Ebrill 2029.

Mae'r cyfnod rhybudd estynedig hwn yn rhoi amser i chi gynllunio a gwneud penderfyniadau gwybodus am eich cynilion pensiwn heb unrhyw bwysau.

Beth mae hyn yn ei olygu i chi:

Mae'r tair blynedd nesaf yn gyfle pwysig. Os ydych chi wedi bod yn ystyried dechrau cynllun Rhannu Cost AVC neu gynyddu’r cyfraniadau i’ch cynllun Rhannu Cost AVC, dyma'ch cyfle i elwa o ryddhad Yswiriant Gwladol llawn cyn i'r terfyn ddod i rym.

Pwysig: nid yw eich prif bensiwn yn cael ei effeithio

Mae'r newid hwn ond yn effeithio ar Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol a wneir trwy drefniadau ildio cyflog. Nid effeithir o gwbl ar fuddion eich prif Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Yn barod i gyfrannu at eich dyfodol?

Mae ein partner, My Money Matters, yn eich galluogi i ddechrau a rheoli eich cynllun Rhannu Cost AVC. Mae'n cymryd 10 munud i ddechrau a gallwch ddechrau gyda chyn lleied â £2 y mis.

Mewngofnodwch i My Money Matters i ddechrau neu newid cyfraniadau eich cynllun Rhannu Cost AVC

Canllaw yn unig yw'r wybodaeth hon ac nid yw'n gyngor ariannol. Rydym yn argymell eich bod yn adolygu eich amgylchiadau personol ac yn ystyried cyngor ariannol annibynnol cyn gwneud newidiadau sylweddol i'ch cyfraniadau pensiwn.

Byddwn yn parhau i ddarparu canllawiau wedi'u diweddaru wrth i ni agosáu at Ebrill 2029 ac yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau pellach.