Gwneud i heddiw gyfrif ar gyfer yfory

3 diwrnod yn ôl

Mae manteisio ar eich lwfansau di-dreth cyn y dyddiad cau ar 5 Ebrill yn ffordd syml o roi hwb i'ch incwm ymddeol a chefnogi'r dyfodol rydych chi wedi bod yn breuddwydio amdano. Bydd yn rhaid i chi weithredu hyn cyn y gyflogres ym mis Mawrth. 

Gall defnyddio cynllun Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVCs) ei gwneud hi hyd yn oed yn haws rhoi hwb i'ch pensiwn gydag arbedion treth. Gallwch chi gyfrannu mwy tuag at eich dyfodol am lai gan fod pob £100 sy'n cael ei ychwanegu yn costio £72.08* yn unig i drethdalwr cyfradd sylfaenol.

Manteisiwch ar eich cyfle di-dreth heddiw drwy wneud cais am gynllun Rhannu Cost AVC yma.

Os oes gennych gynllun Rhannu Cost AVC eisoes, mae'r cyfnod cyn diwedd y flwyddyn dreth yn amser gwych i adolygu'ch cyfraniadau a gwneud yn siŵr eich bod chi'n gwneud y gorau o'ch lwfansau. Gallwch chi reoli eich cyfraniadau yma.

Mae My Money Matters yn cynnal gweminarau unigryw yn y cyfnod cyn diwedd y flwyddyn dreth, i'ch helpu chi i baratoi ar gyfer diwedd y flwyddyn dreth, gwneud y gorau o'r lwfans eleni, a gwneud mwy ar gyfer eich dyfodol.

Gallwch chi weld y sesiynau sydd ar gael drwy fynd i EOTY webinars | My Money Matters ac archebu lle yn y weminar o'ch dewis. 

Mae cynllun Rhannu Cost AVC yn gynnyrch pensiwn ar gyfer aelodau gweithredol CPLlL a gellir ei ddefnyddio ar adeg rhyddhau eich pensiwn llywodraeth leol. Er y gall cynlluniau Rhannu Cost AVC gynnig buddion gwerthfawr, mae'n bosibl nad ydyn nhw'n addas i bawb.

*Mae cynilion trethdalwyr cyfradd sylfaenol yn ganllaw ac yn seiliedig ar gyfraddau Treth Incwm (20%) ac Yswiriant Gwladol (8%) cyfredol, sy'n destun newid. Nid yw'r ffigurau hyn wedi'u gwarantu. 

Mae'n bwysig cofio, wrth i'ch pensiwn gael ei fuddsoddi, gall gwerth y gronfa fynd i lawr yn ogystal ag i fyny, ac efallai y byddwch yn cael llai yn ôl nag rydych chi'n ei fuddsoddi. Mae'r rheolau cymhwysedd pensiwn a threth sy'n berthnasol yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a gallant newid ar unrhyw adeg.