Polisi Di-fwg

4 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu Polisi Di-fwg yn unol â'r Rheoliadau Mangreoedd Di-fwg (Cymru) a'r Rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974 . Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl adeiladau a cherbydau'r Cyngor, gan gynnwys yr holl adeiladau a'r tiroedd cyfagos.
 
Atgoffir pob gweithiwr o'r canlynol:
• Mae ysmygu'n cael ei wahardd yn holl adeiladau’r Cyngor, o fewn cerbydau'r Cyngor ac ar yr holl dir sy'n eiddo i'r Cyngor, yn unol â Rheoliadau Mangreoedd Di-fwg (Cymru).
• O dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974, mae gan y Cyngor ddyletswydd i amddiffyn iechyd, diogelwch a llesiant gweithwyr ac eraill y gallai'r gweithgarwch effeithio arnynt.
• Ni ddylai ysmygu greu niwsans i adeiladau cyfagos, aelodau o'r cyhoedd, neu gydweithwyr.
• Ni ddylid ysmygu ger ffenestri, drysau, neu systemau awyru, lle gallai mwg fynd yn ôl i mewn i adeilad y Cyngor neu adeiladau cyfagos lle gallai mwg ail-law effeithio ar eraill.
• Rhaid i weithwyr sy'n dewis gadael y safle neu'r tir i ysmygu wneud hynny yn eu hamser eu hunain, yn ystod egwyl ddynodedig.
• Disgwylir i'r holl staff weithredu'n gyfrifol gan ystyried eraill bob amser.
Gallai methu â chydymffurfio â'r Polisi Di-fwg a'r gofynion cyfreithiol cysylltiedig arwain at gamau rheoli priodol neu weithdrefnau disgyblu. 

Diolch am eich cydweithrediad wrth helpu i gynnal amgylchedd gwaith diogel, iach a pharchus i bawb.