Canllawiau i weithwyr yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd

8 awr yn ôl

Bydd Etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ddydd Iau, 7 Mai 2026.

Bydd yr Hysbysiad Etholiad yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, 23 Mawrth 2026, a chaiff y cyfnod rhwng yr hysbysiad hwn a'r etholiad ei alw'n gyfnod cyn yr etholiad.

Yn ystod y cyfnod hwn mae angen i'r Cyngor sicrhau ei fod yn parhau'n ddiduedd - rhaid i'r holl aelodau a staff gymryd gofal ychwanegol i sicrhau bod y Cyngor yn cymryd safiad niwtral ac nad yw'n rhoi amlygrwydd na chyhoeddusrwydd i unrhyw ymgeisydd neu blaid benodol.

Er mwyn cefnogi'r aelodau a'r staff yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi cyhoeddi canllawiau cyn yr etholiad.

Er y daw hyn i rym ddydd Llun, 23 Mawrth 2026, cymerwch y cyfle cynnar hwn i ymgyfarwyddo â'r canllawiau ac adolygu unrhyw gynlluniau sydd gennych yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.

Mae'r canllawiau yn ymdrin â materion fel cyhoeddusrwydd, digwyddiadau, cyhoeddiadau a briffiau, a sut y dylid rheoli'r rhain yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.

Mae hefyd yn cynghori ynghylch defnyddio adnoddau'r cyngor, gohebiaeth ag ymgeiswyr, cyfarfodydd a defnyddio adeiladau'r cyngor.

Sylwer bod y canllawiau'n berthnasol i holl aelodau'r cyngor, gweithwyr a chontractwyr sy'n gwneud gwaith ar ran y cyngor.

Darllenwch y canllawiau cyhoeddusrwydd cyn yr etholiad yma