Cyfnod cyn yr etholiad wedi dechrau

6 awr yn ôl

ddydd Llun, Mawrth 23, ymlaen rydyn ni yn y cyfnod cyn yr etholiad ar gyfer Etholiad y Senedd ar 7 Mai.

Er mwyn cefnogi'r aelodau a'r staff yn ystod y cyfnod hwn, rydyn ni wedi cyhoeddi canllawiau cyn yr etholiad.

Mae'r canllawiau'n ymdrin â materion fel cyhoeddusrwydd, digwyddiadau, cyhoeddiadau a briffiau, a sut y dylid rheoli'r rhain yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.

Mae hefyd yn cynghori ynghylch defnyddio adnoddau'r cyngor, gohebiaeth ag ymgeiswyr, cyfarfodydd a defnyddio adeiladau'r cyngor.

Sylwer bod y canllawiau'n berthnasol i holl aelodau'r Cyngor, cyflogeion a chontractwyr sy'n gwneud gwaith ar ran y Cyngor.

Os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny, gofalwch eich bod wedi darllen y canllawiau cyhoeddusrwydd cyn yr etholiad a'ch bod yn gyfarwydd â'u cynnwys.