Maw
12
2024

Clwb Clebran Mis Mawrth gyda Meinir Howells

Yng Nghlwb Clebran mis Mawrth bydd Meinir Howells, wyneb cyfarwydd yn y byd amaethyddol, yn ymuno â ni.

Mae Meinir a'i gŵr Gary yn rhedeg fferm bîff a defaid (gyda'u buches Shadog) ger Llandysul. Cafodd Meinir ei magu ar y fferm deuluol, Maesteilo, sydd ar gyrion Llandeilo.

Mae Meinir wedi gweithio ar raglen Ffermio S4C am nifer o flynyddoedd, gan ymuno yn gyntaf fel ymchwilydd cyn dod yn gyflwynydd. Yn ogystal â Ffermio, gallwch weld Meinir yn cyflwyno rhaglenni S4C gan gynnwys Sioe Frenhinol Cymru a'r Ffair Aeaf.

Dewch i ddysgu mwy ddydd Mawrth, 12 Mawrth rhwng 12.30 a 1.30pm ar Microsoft Teams.

Mae'r Clwb Clebran yn gyfle i chi glywed a siarad Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol.

Ymunwch fan hyn

 

  • Pryd: 12.30pm
  • Ble: Microsoft Teams