Polisi Absenoldeb Salwch - Mehefin 2025
Yn yr adran hon
12. Atal Tâl Salwch Galwedigaethol
Mae sefyllfaoedd eraill a all arwain at wrthod rhoi Tâl Salwch Statudol hyd yn oed o dan rai amgylchiadau pan fydd y Tâl Salwch Statudol yn parhau:
- Mae'n bosibl na wneir taliadau salwch galwedigaethol pan achosir eich anafiadau gan weithgareddau chwaraeon am dâl, cyfranogi'n ddi-hid mewn gweithgareddau peryglus neu chwaraeon eithafol, llawdriniaeth gosmetig ddewisol, neu anafiadau a gafwyd wrth weithio i gyflogwr arall;
- Gellir dod â thaliadau Tâl Salwch Galwedigaethol i ben pan fyddwch yn ymgymryd â gweithgareddau yn ystod cyfnod o salwch a allai amharu ar ddychwelyd i'r gwaith neu achosi oedi i hynny, a /neu os byddwch yn cymryd rhan yn ymwybodol mewn gweithgareddau sydd wedi achosi cyfnodau o absenoldeb yn y gorffennol;
- Ni thelir Tâl Salwch Galwedigaethol os byddwch yn methu â mynychu cyfarfodydd Iechyd Galwedigaethol a/neu gyfarfodydd gyda'r rheolwyr heb reswm digonol neu heb roi gwybod ymlaen llaw. Gellid effeithio ar daliadau Salwch Galwedigaethol yn y dyfodol os byddwch yn methu â mynychu, heb reswm da, gyfarfod Iechyd Galwedigethol a/neu sesiynau therapi neu fentrau eraill y cytunwyd arnynt gan yr Awdurdod i hybu llesiant y gweithiwr, heb reswm da;
- Ni thelir tâl Salwch Galwedigaethol os bydd gweithwyr meddygol proffesiynol Iechyd Galwedigaethol yn cynghori dychwelyd i'r gwaith oddi mewn i derfynau amser penodol, ac nid ydych yn dychwelyd i'r gwaith, heb fod rheswm da am hynny;
- Ni thelir Tâl Salwch Galwedigaethol a statudol os ydych yn methu â dilyn y weithdrefn hysbysu briodol ac mewn achosion o oedi mwy na 7 niwrnod calendr wrth ddarparu tystysgrif ffitrwydd i weithio, heb reswm da;
- Ni thelir Tâl Salwch Galwedigaethol i chi os bydd yn hysbys eich bod, yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch, yn gweithio i gyflogwr arall neu'n gwneud unrhyw waith arall, boed hynny am dâl neu beidio, heb geisio caniatâd ymlaen llaw;
- Telir tâl salwch galwedigaethol yn achos absenoldeb salwch sy'n arwain at hawliad yn erbyn trydydd parti am golli enillion, ond bydd trefniadau yn eu lle i adennill y tâl salwch galwedigaethol unwaith caiff yr hawliad yn erbyn y trydydd parti ei setlo.
Mae gennych yr hawl i ofyn bod penderfyniad i dynnu Tâl Salwch Galwedigaethol/Statudol yn ôl yn cael ei adolygu gan y Cyfarwyddwr neu ei gynrychiolydd enwebedig, gyda chyngor gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) neu ei gynrychiolydd enwebedig.
Rhaid cyflwyno'ch cais am adolygu penderfyniad yn ysgrifenedig i'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) o fewn 7 niwrnod calendr i ddyddiad derbyn y penderfyniad ynghylch tynnu Tâl Salwch Galwedigaethol/Statudol yn ôl, a rhaid nodi'r rhesymau dros wneud cais am adolygiad.
Bydd y Cyfarwyddwr neu'r cynrychiolydd enwebedig yn adolygu'r penderfyniad gyda chyngor gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) neu’r sawl a enwebwyd ac yn cadarnhau'r canlyniad i chi heb oedi diangen.
