Polisi Absenoldeb Salwch - Mehefin 2025
Yn yr adran hon
- 8. Cysylltiadau rhwng absenoldeb tymor byr ac absenoldeb tymor hir
- 9. Y Weithdrefn Adolygu Absenoldeb Salwch a'r Trothwyon
- 10. Ymddeol ar sail afiechyd.
- 11. Iechyd Galwedigaethol
- 12. Atal Tâl Salwch Galwedigaethol
- 13. Datganiad cydraddoldebau
8. Cysylltiadau rhwng absenoldeb tymor byr ac absenoldeb tymor hir
Dylech nodi y bydd y weithdrefn yr un fath ar gyfer absenoldebau tymor byr, ysbeidiol (absenoldeb am lai na phedair wythnos fel arfer), neu absenoldeb tymor hir (fel arfer absenoldeb di-dor o bedair wythnos neu fwy). Fodd bynnag, os yn ystod y weithdrefn ffurfiol mae eich patrwm absenoldeb oherwydd salwch yn newid o dymor byr i'r tymor hir, yn enwedig lle gall y rheswm dros absenoldeb fod yn gysylltiedig ag anabledd, efallai y byddai'n briodol ceisio rhagor o wybodaeth feddygol gan y Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol.
Tra bod y wybodaeth hon yn cael ei cheisio, byddwch yn aros ar yr un cam o'r weithdrefn rheoli absenoldeb ffurfiol fel y gellir ystyried natur eich salwch neu gyflwr ac yn dilyn cyngor Iechyd Galwedigaethol, penderfynu a oes angen addasiadau rhesymol cyn symud i gam nesaf y weithdrefn. Bydd y penderfyniad i aros ar yr un cam yn cael ei wneud 'fesul achos' yn dibynnu ar y ffeithiau a dylai eich rheolwr llinell geisio cyngor gan y Partner Busnes Adnoddau Dynol priodol.
